Cwrw Cymru a'r Gwyl yng Nghaerdydd

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cwrw Cymru a'r Gwyl yng Nghaerdydd

Postiogan aberdarren » Mer 22 Tach 2006 11:26 pm

Mi fydd Gwyl Cwrw a Seidr Cymru 2006 yn dechrau yfory yng Nghaerdydd - manylion yn y fan yma http://www.gwbcf.org.uk/

Rydw i penderfynu gadael CAMRA eleni o herwydd fod James Daley - y cyfarwyddwr yn Nhe Cymru - yn gwrth-Gymraeg.

Ysgrifennais at Mr Daley y llynedd yn gofyn pa ham nad oedd unrhyw ymrwymiad i'r Gymraeg ee. trwy gyhoeddu ddeunydd yn y Gymraeg, gwefan Cymraeg.

Ymateb Mr Daley oedd "there's no demand".

Credaf fod CAMRA yn gwbl anfoesol wrth ddefnyddio egwyddorion y farchnad tra'n trafod yr Iaith Gymraeg.

Nid yw CAMRA yn defnyddio yr un rhesymeg tra'n trafod cwrw traddodiadol... fe ddylent parchu ein etifyddiaeth.

D
aberdarren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Sul 14 Awst 2005 10:22 pm
Lleoliad: Yn y Bragdy

Postiogan bartiddu » Mer 22 Tach 2006 11:42 pm

Itha reit a ti hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Rhys » Iau 23 Tach 2006 1:23 pm

Cynnigais gyfiethu gwefan yr wyl ar gyfer 2004 (neu 2003), ac wedi i mi ei gyfieithu, dyma nhw'n ei ddefnyddio y flwyddyn honno. Am ryw reswm tydyn nhw ddim wedi gwneud hynny yn y blynyddoedd canlynol er bod cynnwys y mwyafrif llethol o'r tuadlennau cyffredinol wedi aros yr un fath.

A'i sylw personol James Daley oedd 'there's no demand' neu un swyddogol CAMRA?

Pa bynnag un ydi o, mae'n siomedig eu bod yn cymeryd yr agwedd yma.

Oes cyfeiriad e-bost ato.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dili Minllyn » Iau 23 Tach 2006 8:16 pm

Ar un adeg, roedd CAMRA'n gwneud ffurflenni aelodaeth Cymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan aberdarren » Iau 23 Tach 2006 11:31 pm

Rhys a ddywedodd:Cynnigais gyfiethu gwefan yr wyl ar gyfer 2004 (neu 2003), ac wedi i mi ei gyfieithu, dyma nhw'n ei ddefnyddio y flwyddyn honno. Am ryw reswm tydyn nhw ddim wedi gwneud hynny yn y blynyddoedd canlynol er bod cynnwys y mwyafrif llethol o'r tuadlennau cyffredinol wedi aros yr un fath.

A'i sylw personol James Daley oedd 'there's no demand' neu un swyddogol CAMRA?

Pa bynnag un ydi o, mae'n siomedig eu bod yn cymeryd yr agwedd yma.

Oes cyfeiriad e-bost ato.


Rwy wir yn parchu dy gyfraniad wrth gyfieithu'r gwefan ac oni bai am y blogfro faswn i ddim yn ymwybol bod rhywun arall wedi paratoi cyfieithiad...

Prif drefnydd CAMRA yn Nhe Cymru yw James Daley ac felly fe dderbyniais ei ymateb fel un swyddogol dros CAMRA.

Mae'r trafodaeth e-byst yma rhywle fel rhan o bentwr rhithwir.
aberdarren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Sul 14 Awst 2005 10:22 pm
Lleoliad: Yn y Bragdy


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron