Meddwl 'swn i'n dechra' edefyn lle gall bobl adael rysaitiau bara (i'w gwneud â pheiriant, neu fel arall).
Dwi'n gneud fy mara fy hun ers chydig fisoedd - mae'n neis gwbod be' sydd yn y bara (ac yn bwysicach, be' sydd ddim yn y bara! - rhifauE, a ballu).
Wedi edrych yn y llyfr, mae'n debyg fod angen cynhwysion ychwanegol ar gyfer gwneud rôls - petha' fel powdwr llaeth (pam fod isho hwn, os nad oes isho fo i 'neud bara arferol?). Oes gan unrhywun brofiad o wneud bara 'gwahanol' i'r dorth arferol? Dwi'n gwbod fod posib rhoi syltanas, llugaeron, tomatos ayyb. Ond mi fysa'n neis cael gwbod gan rhywun sydd wedi gwneud rhain yn llwyddianus - gan gael y wybodaeth o ran faint yn union o bopeth sydd ei angen.
Problem 'dwi wedi'i chael gyda fy mheiriant i (un ail-law Taid) ydi fod y padl yn aros yn y bara ar ôl i fi dynnu'r dorth o'r peiriant. Mae padl peiriant Mam yn aros yn y peiriant, gan dorri'n daclus drwy'r crystyn gwaelod wrth i'r dorth gael ei hysgwyd allan. Dwi'n gorfod tyrchu mewn i waelod y dorth i gael gafael ar y bali peth, ac yn gneud smonach fawr o'r dorth yn y broses. Unrhyw dips?!
Dowch a'ch resipîs!