gan Llewelyn Richards » Gwe 29 Rhag 2006 12:24 am
Mae Geraint wedi estyn gwahoddiad caredig imi gyfrannu ychydig o dips, ac oni fyddai'n gywilyddus gwrthod?
Yn gyntaf, diwedd y gan yw'r geiniog. Fel arfer, mae'n werth talu punt neu ddwy i gael gwell gwin yn eich gwydr. Mae'r byd gwin fel ag y mae heddiw yn ehangach nag y buodd erioed, ac mae na gymaint o stwff blasus, gwahanol ar gael am bris rhesymol. Mentrwch. Mae rhai o'r awgrymiadau isod ar gael am lai na phumpunt ond does dim un yn costio mwy na decpunt. Reit...
Sdim o'i le ar eich Blossom Hill/Gallo/Jacob's Creek/Hardy's/Lindemans/wolf Blass - yfwch nhw os da chi'n licio nhw. Mae'r rhan fwyaf o'r labeli mawr yn ddibynadwy ac yn eitha blasus. Jest peidiwch a disgwyl llawer o gyffro. O ran y rhein hefyd, mae'r Jacobs Creek Grenache/Shiraz yn flasus iawn unrhyw adeg, ac mae'r labeli Casillero del Diablo/Cono Sur/Alamos o Chile a'r Ariannin yn gam i fyny pendant o ran safon am tua'r un pris.
Osgowch y rhan fwyaf o winoedd coch o Ffrainc (yn enwedig Bordeaux) am chwephunt neu lai. Mae nhw'n ofnadwy fel arfer. Serch hynny, mae gwinoedd efo Vin De pays D'Oc ar y label yn gallu bod yn flasus.
Ystyriwch gostau trethi, allforio a llafur.
Ar ol hyn oll, beth dybiwch chi ydi gwerth y gwin mewn potel o £4-£5? Tua £1 ar y mwyaf?
Ond mae na fargeinion cymharol o gwmpas. Yn benodol, mae Sbaen yn gwneud gwinoedd coch a gwyn o safon (mewn ardaloedd tu allan i ardaloedd enwog fel Rioja), fel Catalyud, Penedes, La Mancha ac Extremadura. Byddant yn blasu yn llyfn fel Rioja da ond am hanner y pris. Amdani.
Mae'r Ariannin hefyd yn cynnig gwell gwerth am arian na Chile erbyn hyn, a mwy o ddewis anarferol fel gwynion melys ond sych fel Torrontes. I'r sawl sy'n hoff o Shiraz, mae grawnwin y Nero D'Avola o Dde'r Eidal a Sisili yn cynnig llawn gymaint o gymeriad a blas lawr eich corn gwddw.
Os ydach chi wedi blino ar Chardonnay, a rhyw winoedd diflas a di-fflach fel Pinot Grigio (yn fy marn bach i), mae digon o ddewis amgen. Er nad yw'r grawnwinoedd Riesling a Sauvignon Blanc at ddant pawb, mae nhw o leia yn cyffroi'r synhwyrau a dylai pawb eu profi unwaith, yn enwedig Sauvignon Blanc o Seland Newydd, jest i gael gweld. Fe gewch enghreifftiau da fel Villa Maria ac Oyster Bay o archfarchnadoedd am lai na seithpunt.
Wel, gobeithio bod hynny o help. Mwynhewch eich yfed a blwyddyn newydd ddaaaa!
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields