Gwin o'r offi

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwin o'r offi

Postiogan Geraint » Gwe 15 Rhag 2006 9:04 pm

Dwi eisiau dechrau trafodaeth am win - nid edefyn i'r conosseurs am y gwinoedd gorau a ddrytach, ond am gwin da chi'n prynu yn yr offi neu archfarchand am rhyw £4 i £10. Dwi'n ffeindio ei fod fel y ffycin loteri - prynu rhai boteli sydd yn hyfryd, a rhai boteli afiach. Ond mae'n anodd gweld y patrymau. Be da chi'n mynd am pan yn edrych am botel o win fel hyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Al » Gwe 15 Rhag 2006 9:10 pm

Blossom Hill
Al
 

Postiogan Geraint » Gwe 15 Rhag 2006 10:42 pm

Ie? Dio'n dda? Pa Blossom Hill ti'n son am, dwi'n meddwl bod nhw'n neud lot o wahanol fathau o win. Dwi'n tueddol o drio osgoi y cwmniau mawr efo labeli lliwgar - dwi dan yr argraff y bydd y gwin wastad yn iawn, ond dim yn wych. Gan eu bod efo lot o adnoddau, ma nhw'n gallu sicrhau fod y gwin ar safon gyson, ond falle nid y gwin gorau. O leia mae'n 'safe bet' da nhw. Ond dwi wastad isho trio cael y gwin mwy blasus dwi'n gallu, un lle mae'r blas yn ffrwydro ar eich tafod. Un lle ma'r blas yn aros am erhai eiliadau ar ol llyncu. Dyma y fath o syniadau dwi efo - sain gwbod faint o wirioni sydd i nhw!

Dwi'n hoffi mynd am chianti neu rioja. Cymrhwch Chianti . Yn archfachnad, falle fod yna bump cianti o'r run pris. Dwi'n gwybod fydd un o nhw'n lysh. Ond fydd un neud ddau yn siomedig dros ben - garantid. Mae'n job anodd osogi y dyffyrs.

well gennai brynu rhai o'r cyfandir - dwi'n gwybod fod rhai o y byd newydd llawn cystal os nad gwell, ond am rhyw rheswm, dwi'n sdicio efo'r cyfandir, gan obeithio bydd y canrifoedd o draddodiad yn dod trwyddo!

Mae gennai lyfr am win a dwi'n trio dysgu - y problem da'r llyfrau ma yw fod y sdwff da chi'n prynu yr yr offi ddim fel arfer yn covered yn y llyfrau ma. Dwi hefyd yn weithiau tecstio Llywelyn Richards am tips. Tips Llewelyn Richards - na chi eitem dda i Radio Cymru.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Al » Gwe 15 Rhag 2006 10:55 pm

Erm...Blossom Hill Calafornia Merlot. Mae o reit neis efo pryd o fwyd, yn enwedig wbath fel cinio dydd sul. Mae o reit gry, o ran tast, melys falle di'r gair, diom mo'r smwdd a rhai o pethau erill dwi di trio. Ond dwim yn expert o gwbl.

Riw £3.99-£4.50 yn Spar ydio.
Al
 

Postiogan bartiddu » Sad 16 Rhag 2006 12:05 am

Gewch chi'm gwell na Le' Piador neu Paul Masson (botel rhyfedd) os am cysondeb a blas da, er dim yn siwr am y cynnwys, O Galifornia deith Masson (amhariaeth genyddol?), llawn pethe wedi potchan gyda ma'n siwr, ond Le Piador byth yn siomi.
Hysbsebion da 'da nhw yn yr wythdegau 'fyd " The French adore Le' Piador!" boi yn rhoi botel i'w darpar dad yn nghyfreth cyn mynd mas a'i ferch am noson, popeth yn iawn os o'ch chi'n rhoi botel o Le Piador! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Sad 16 Rhag 2006 12:00 pm

Syniad da am edefyn. :D

Fi gwmws yr un peth - pan o ni yn Gdydd o ni'n byw rownd y cornel o Threshers (neu Y Local yw e nawr) ar Woodville Rd, a o fi a'r bois arfer pryni gwin o'r lle yn aml.
Offers reit tidi - prynwch 3 a gal y jepach am ddim, ond gan bod neb yn arbennigwr ar y peth, yn aml o ni'n dod mas da stwff bydde chi'n amheus o dodi ar dy chips. Felly byddau'n falch i dderbyn unrhyw help.

Wi yn gwbod bod Blossom hill yn stwff da, cytuno da ti fanna.

Dwy cwesitwn bach - ydw i'n iawn i osgoi boteli Sgrew Top? Glywes i bod lot o'r cwmnioedd fawr am atal defynddio corcs.
A odwi'n pwrs am lico Rose? :winc:
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sad 16 Rhag 2006 3:03 pm

Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Dwy cwesitwn bach - ydw i'n iawn i osgoi boteli Sgrew Top? Glywes i bod lot o'r cwmnioedd fawr am atal defynddio corcs.
A odwi'n pwrs am lico Rose? :winc:


Mae'n debyg nad oes tystiolaeth i gefnogi'r ffaith fod caead wedi'i sgriwio yn effeithio'r gwin, ac mae'n debyg nad oes gwahaniaeth rhwng gwin sydd wedi'i gau efo corcyn neu wedi'i sgriwio. Mae prinder coeden gorcyn yn y byd ar hyn o bryd, felly er ei bod yn swnio'n fwy "byd-ffrendli" i ddefnyddio corcyn naturiol, ar hyn o bryd, 'di hyn ddim yn wir gan fod y goeden wedi mynd yn brin.
Dwyt ti ddim yn bwrs am licio Rose :winc:
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Geraint (un arall) » Sul 17 Rhag 2006 12:57 pm

Ychydig flynyddoedd nol nes i ymuno efo un o'r clybiau gwin ma lle da chi'n cael bocs o'r stwff bob tri mis. Mi oedd o'n gweithio allan tua 5 punt y botel ac mi oedd y safon yn arbennig o dda gan bod rhywun arall wedi dewis y gwin drosta i! Am y weithred hon dwi'n falch o ddweud fy mod i wedi ennill gwobr "person dosbarth canol y mis" gan Gymdeithas y Werin Datws (hoff ddiod: poteen)
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint (un arall)
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 95
Ymunwyd: Mer 12 Chw 2003 8:42 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 18 Rhag 2006 12:49 am

Dwi wrth y modd efo Fleurie, yn arbennig yn yr haf. Rioja'n rêl boi 'fyd. Ma Ultracomida yn Aber efo dewis gwych a rhesymol wedi'u dewis yn arbennig ac yn gallu argymell pa un i fynd efo pa fath o bryd.

Adag dolig dwi di prynu bocsus o che potal o Dylanwad Da yn Nolgellau. Wedi cael gwinoedd reit sbeshal drwyddo fo 'fyd. Mae o'n mynd draw i Sbaen a Ffrainc ac yn dewis nhw ei hun. "Dan y Ddylanwad" dwi'n meddwl mae o di galw yr ochr yma o'r busnes. Gafodd o ei roi mewn rhestr top 10 o fwytai am eu dewis nhw o win - 3 lle uwchben bwyty Gordon Ramsey!

Saumur Champigny yn hyfryd 'fyd.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan khmer hun » Llun 18 Rhag 2006 9:27 am

Finne wedi gofyn am focsed o chwech o siop Blas ar Fwyd yn Llanrwst yn y gorffennol 'fyd, mae'n lyfli cael rhywun yn dewis rhai da i chi. Am fynd dydd Sadwrn, a chael prynu tsiwtne (chutney?) a chawsys a lot o bethe diangen eraill siwr o fod.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron