Gwin o'r offi

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Bendigeidfran » Llun 18 Rhag 2006 11:00 am

khmer hun a ddywedodd:tsiwtne (chutney?)


Catwad di'r gair yn ol Cysgeir, ond oes rhywun yn rhywle yn deud hynny go iawn? Mae hefyd yn cynnig picl cymysg. Siytni ydi o yn ôl y Termiadur Ysgol.
Ddim gwerth cnec mochyn coron
Rhithffurf defnyddiwr
Bendigeidfran
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Mer 22 Tach 2006 1:40 pm
Lleoliad: Aberpennar

Postiogan Sili » Llun 18 Rhag 2006 2:42 pm

Y 'tipple of choice' i mi ar y funud yw'r 'Brown Brothers' 2005 Dry Muscat. Hollol hyfryd a sych wedi ei yfed mor oer a phosib.

Ewch chi ddim yn anghywir efo botel o 'Rosemount Diamond Label Chardonnay' chwaith. Drud (rhyw £8 fel arfer) ond blydi lyfli. Mae'r Diamond Label Merlot yn neis efo stecen waedlyd hefyd :D
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Gwyn » Llun 18 Rhag 2006 2:52 pm

Sain deall lot am win (ond bach mwy na James o'r rhaglen Big Wine Adventure na ar BBC2) ond, yn ty ma, ni'n yfed lot o Blossom Hill, Ernest a Julia Gallo a rhwbeth arall neis (sain cofio ar y funud ond credu bod e'n dachre da 'C'... falle).

Gyda llaw, ma gwin Rose yn lyfli... ysgafn fel gwin gwyn ond blas hyfryd fel gwin coch.

I fynd oddi ar y pwnc dipyn bach, oes rhywun di clywed y gan 'Rose' gan The Feeling? Hyfryd, ac yn adlewyrchu'r profiad o yfed gwin Rose yn berffaith!
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Postiogan Mr Gasyth » Llun 18 Rhag 2006 3:27 pm

Does gen i fawr o glem efo gwin - heblaw 'coch = neis' a 'gwyn = ddim mor neis'.

Mae fy null dewis i wedi ei gyfyngu i chwilio am potel efo Shiraz neu Syrah arno fo. Dim rheswm arbennig heblaw mod i rioed wedi cael gwin anerbyniol wrth sdicio at rhein. Hefyd, mae'n bwysig fod yna bant dwfn yng ngwelod y botel.

Dwi di ffeidnio fod gwinoedd sydd efo enwau hurt a/neu label lliwgar, ond sydd heb fod cweit y rhataf yn y siop yn hyfryd. Cofio rhyw 'Wild Boar' oedd arfer bod yn Morrisons and sydd ddim bellach yn anffodus, a mae gan Costcutter 'Dingo' sydd efo label lliwgar iawn a sy'n flasus tu hwnt.

Nes i brynu Chateau Neuf du Pape unwaith, am ei fod ar gynnig arbennig a mod i wedi clywed yr enw ar Only Fools and Horses (Chateau Neuf du Pape Rodney!). Ar yr achlysuron prin rheiny pan dwi wedi cael gwin da, drytach (sef pan mae rhywyn arall, Ffrancwyr fel arfer, wedi ei brynu) dwi wedi teimlo fod blas gwin yn dirywio wrth i'w bris godi. Dwi'n hoffi'r blasau cryf sydd mewn gwinoedd mwy 'ruff' - mae'r rhai drud, smooth, dwi di gael yn blasu fel Ribena gwan.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Chwadan » Llun 18 Rhag 2006 3:57 pm

Gwyn a ddywedodd:Gyda llaw, ma gwin Rose yn lyfli... ysgafn fel gwin gwyn ond blas hyfryd fel gwin coch.

Ma gwin pinc y Gallos (boed zinfandel neu grenache) yn prysur greu problem i mi :? Mae o fel yfed pop ond heb y fizz. Ac mae o wedi difetha fy ngallu i yfed gwin gwyn. Ac wedyn ddois i adre dros y Dolig a ffeindio bocs ohono yng nghwpwrdd mam. Big mistec.

Blaw am y broblem fach yna, cabernet sauvingnon sy'n cymryd fy ffansi gan amlaf. Ond hit and miss ydi hi'n aml - ges i botelaid hanner pris (£4) o'r Co-Op i'w rhoi mewn bwyd yn ddiweddar a ffeindio ei bod hi'n llawer rhy dda i'w rhoi mewn bwyd. I lawr y lon goch a hi. Yn anffodus dwi'm yn cofio pa label oedd arni (dowtles, ma gan hyn rywbeth i'w wneud efo'r ffaith 'mod i wedi'i hyfed hi) :(

Ddois i a rhai poteli adre o winllan yn Slofenia hefyd. Lysh lysh am lai na £4 y botel :D

Cytuno efo Geraint am y busnes cwmniau mawr ma - ma nhw'n saff ond ddim yn wych. Ond pan da chi'n sgint mae'n haws mynd am rwbath saff yn hytrach na mentro £6 ar botel o rwbath allsa fod yn finegr. Ma hwn gen i ond ma isio mynadd a lot o boteli i droi'ch hun yn destyr o fri!
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Socsan » Llun 18 Rhag 2006 4:08 pm

Fy ffefryn i ar y funud ydi Wolf Blass Yellow Label (Coch - Cabernet Sauvingnon). Ella fod o dipyn yn goman gan fod o wastad ar offer, ond dwi'n hapus hefo fo de! £5.99 dio ar y funud yn Tesco, tua £7-8 ydio fel arfer :D
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan Llewelyn Richards » Gwe 29 Rhag 2006 12:24 am

Mae Geraint wedi estyn gwahoddiad caredig imi gyfrannu ychydig o dips, ac oni fyddai'n gywilyddus gwrthod?

Yn gyntaf, diwedd y gan yw'r geiniog. Fel arfer, mae'n werth talu punt neu ddwy i gael gwell gwin yn eich gwydr. Mae'r byd gwin fel ag y mae heddiw yn ehangach nag y buodd erioed, ac mae na gymaint o stwff blasus, gwahanol ar gael am bris rhesymol. Mentrwch. Mae rhai o'r awgrymiadau isod ar gael am lai na phumpunt ond does dim un yn costio mwy na decpunt. Reit...

Sdim o'i le ar eich Blossom Hill/Gallo/Jacob's Creek/Hardy's/Lindemans/wolf Blass - yfwch nhw os da chi'n licio nhw. Mae'r rhan fwyaf o'r labeli mawr yn ddibynadwy ac yn eitha blasus. Jest peidiwch a disgwyl llawer o gyffro. O ran y rhein hefyd, mae'r Jacobs Creek Grenache/Shiraz yn flasus iawn unrhyw adeg, ac mae'r labeli Casillero del Diablo/Cono Sur/Alamos o Chile a'r Ariannin yn gam i fyny pendant o ran safon am tua'r un pris.

Osgowch y rhan fwyaf o winoedd coch o Ffrainc (yn enwedig Bordeaux) am chwephunt neu lai. Mae nhw'n ofnadwy fel arfer. Serch hynny, mae gwinoedd efo Vin De pays D'Oc ar y label yn gallu bod yn flasus.

Ystyriwch gostau trethi, allforio a llafur.

Ar ol hyn oll, beth dybiwch chi ydi gwerth y gwin mewn potel o £4-£5? Tua £1 ar y mwyaf?

Ond mae na fargeinion cymharol o gwmpas. Yn benodol, mae Sbaen yn gwneud gwinoedd coch a gwyn o safon (mewn ardaloedd tu allan i ardaloedd enwog fel Rioja), fel Catalyud, Penedes, La Mancha ac Extremadura. Byddant yn blasu yn llyfn fel Rioja da ond am hanner y pris. Amdani.

Mae'r Ariannin hefyd yn cynnig gwell gwerth am arian na Chile erbyn hyn, a mwy o ddewis anarferol fel gwynion melys ond sych fel Torrontes. I'r sawl sy'n hoff o Shiraz, mae grawnwin y Nero D'Avola o Dde'r Eidal a Sisili yn cynnig llawn gymaint o gymeriad a blas lawr eich corn gwddw.

Os ydach chi wedi blino ar Chardonnay, a rhyw winoedd diflas a di-fflach fel Pinot Grigio (yn fy marn bach i), mae digon o ddewis amgen. Er nad yw'r grawnwinoedd Riesling a Sauvignon Blanc at ddant pawb, mae nhw o leia yn cyffroi'r synhwyrau a dylai pawb eu profi unwaith, yn enwedig Sauvignon Blanc o Seland Newydd, jest i gael gweld. Fe gewch enghreifftiau da fel Villa Maria ac Oyster Bay o archfarchnadoedd am lai na seithpunt.

Wel, gobeithio bod hynny o help. Mwynhewch eich yfed a blwyddyn newydd ddaaaa!
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 29 Rhag 2006 12:07 pm

Edefyn ysbrydoledig! Syniad da cael edefyn am win rhad, achos, fel mae pawb yn gwybod, dydi gwin rhad ddim gwaeth na gwin drud. Nid ymhongar mohonof yn y mater o ddewis gwin da.

Fel un sy'n hoff o'i goch (ac yn wrthyn i'w wyn) y gwin rhad gorau dw i wedi ei flasu ydi rhyw un o Nisa ar City Road. Dw i'm yn cofio'i henw, ond fe'r oedd na gartwns anifeiliaid ar y blaen a dim ond rhyw £2.50 oedd hi (mi a'i prynais yn bennaf oherwydd y cartwns fel mae'n digwydd).

Snwffiwch o gwmpas amdani. Os cewch enw, dywedwch.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan bartiddu » Sul 31 Rhag 2006 2:36 pm

Brynais fotel o St Lucas Malbec yn Aldis ac agorais i e ryw 3 diwrnod nol. Odd dim yn arbennig amdano yn syth ar ol ei agor, felly gades i e ar ei hanner, wel bois bach erbyn heddi mae'n blasu'n hyfryd!
Ryw bumpunt forna oedd e, sgwar goch o fewn sgwar aur yw'r rith ar y botel.
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan khmer hun » Mer 03 Ion 2007 12:10 pm

Geson ni y Prosecco bach yma o Waitrose ar gyfer swper nos Galan. Lot neisach na chava a champagne hyd noed, ond mi aeth yn llawer rhy sydyn rhwng pawb. Am £5.69 o'dd e'n neisach byth.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron