Cwrw o Wlad Pwyl

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cwrw o Wlad Pwyl

Postiogan Geraint » Maw 19 Rhag 2006 5:13 pm

Mae'n rhaid i mi ddechre edefyn newydd am hyn..............

Mae cwrw o Wlad Pwyl nawr ar gael yn hawdd yn ein offis ac archfarchnadoedd.

3 peth sy'n ei wneud yn wych

1. Mae'n rhad iawn (£1.29 am fotel 500ml. Tyskie yn 4 am £4 yn Bargain Booze)

2. Mae'n gryf - 5.6%

3. A gore oll - mae'n blasu'n ffacin lysh! Lager blasus mewn sdeil Dwyrain Ewrop, heb y cachu ma nhw'n rhoi yn lagers ni.

Dwi di trio ZYWIEC (£1.29 o Morrissons)
ac TYSKIE (4 am £4 Bargain Booze)
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan garynysmon » Maw 19 Rhag 2006 5:14 pm

Oeddwn i'n yfed Zywiec yn Lodz, Gwlad Pwyl llynadd. Roedd o'n wych. Rhyfadd felly sut oedd o'n blasu fel pi-pi pan gesh i botel ohono yn Wetherspoons rhyw 2 fis yn ol :?
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Geraint » Maw 19 Rhag 2006 5:16 pm

Nes di oeri fo? Ar y botel prynes i, mae yna gap gwyn ar y label - pan ei fod y tymheredd iawn, mae 'zywiec' yn ymddangos.

Basw ni ddim yn trysio Wetherspoons i boeni am pethau fel hyn ddo!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan garynysmon » Maw 19 Rhag 2006 5:19 pm

Sylwais ar ddim felly, ond ti'n iawn. Dydi o ddim fel Wetherspoons i boeni am rywbeth felly.

I fod yn deg hefyd, dydw i ddim gymaint a hynny o ffan o gwrw o'r botel chwaith. Roedd o yn blasu'n afiach serch hynny.

Heb drio Tyskie yn y wlad yma eto, fe ro'i go ar hwnnw dros Dolig 'ma. Wnesh i yfed dipyn o hwnnw yng Ngwlad Pwyl hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Maw 19 Rhag 2006 5:31 pm

O ni yn yfed yn y tafaran lleol 'da cwpl o fois o'r Wlad Pwyl sy'n gwitho 'na, a trial cal sgwrs amdano ddrincs.

Wedes i bod Zywiec yn neis iawn, a meddod y foi yn ol: "Haw much yu pai for Zywiec?"
Rhwbeth fel £2, atebes i.
"Eeen Poland, izz Ffiffty pence!" 8)

S'im Morrisons na Bargen Bwz rownd ffor' hyn yn anffodus. Fyddau'n 'wilo rownd Tescos Pontardawe tro nesa fi 'na.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan garetshyn » Maw 19 Rhag 2006 6:07 pm

Unrhyw syniad os oes modd cael y fodca Pwyleg Zubrowka yn y wlad ma hefyd (yr un gyda'r Bison ar y botel)?

Licen i ail greu'r ddiod hyfryd Tatanka, ond dyw Smirnoff ddim cweit yn neud y job :?
Rhithffurf defnyddiwr
garetshyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 73
Ymunwyd: Gwe 24 Meh 2005 9:07 am

Postiogan Tegwared ap Seion » Maw 19 Rhag 2006 6:39 pm

Geraint a ddywedodd:Nes di oeri fo? Ar y botel prynes i, mae yna gap gwyn ar y label - pan ei fod y tymheredd iawn, mae 'zywiec' yn ymddangos.

Basw ni ddim yn trysio Wetherspoons i boeni am pethau fel hyn ddo!


Mae wedi dod o'r oergell bob tro dwi wedi ei brynnu yn Wspoons - gyda'r logo Zywiec yn goch arno.

Okocim yn neis iawn hefy (hefyd ar gael o WSpoons). Acshwli, ma nw i gyd yn lyfli - yn enwedig am 50c am hanner litr ar ddiwrnod poeth o haf! :D
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Dili Minllyn » Maw 19 Rhag 2006 9:01 pm

garetshyn a ddywedodd:Unrhyw syniad os oes modd cael y fodca Pwyleg Zubrowka yn y wlad ma hefyd (yr un gyda'r Bison ar y botel)?

Yn ble ydych chi chi? Mae 3 Polski Sklep o leiaf i'w cael erbyn hyn yng Nghaerdydd, ac mae sawl siop arall wedi dechrau gwerthu bwydydd a diodydd Pwylaidd (ddim yn siwr am fodca).
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Tegwared ap Seion » Maw 19 Rhag 2006 11:54 pm

Alcodwll! :D 'Snam caffi dwyieithog - Cymraeg/Pwyleg yn 'Recsam dwch?!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan S.W. » Mer 20 Rhag 2006 1:57 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:Alcodwll! :D 'Snam caffi dwyieithog - Cymraeg/Pwyleg yn 'Recsam dwch?!


Delicatessen Cymraeg/ Pwyleg yn Wrecsam oes, rownd y gornel o Glwb Nos Liquid ac Envy.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron