jeli llugaeron, cabaits coch melys, moron trwy seidar ayb

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Manon » Iau 21 Rhag 2006 1:24 pm

Sdim angan y cherry brandy 'na i wneud saws cranbri... Jysd cofia rhoi digon o siwgr achos un flwyddyn nes i un slimline (blydi lol!) ac roedd o'n rhy sharp.

Panas wedi eu rhostio efo cymysgedd o olew olewydd a mel yn lyfli, mae o'n mynd mor crispi a neis.

'Dwi 'di clywed bod rhoi cot dena o flawd ar y tatws cyn eu rhostio yn neud nhw'n grenshlyd lyfli... Oes rhywun wedi trio hyn?

I'r fejis, mi fyddaf yn gwneud Aubegine Thing. 2 dun o domatos wedi'u torri, stoc ciwb a gwerth llond tun o ddwr. Coginio hwn mewn sosban efo 2 lond llaw o ffacpys oren a pherlysiau nadoligaidd (thyme yn neis). Weyn mewn potyn ffwrn rhoi aubegines, tomatos, madarch, peppers mewn layers bach twt. Pan ma'r ffacpys bron a cwcio, tywallt y cwbl dros y layers llysia. Gratio caws cry' ar y top a phobi am hanner awr. Iyhyhym!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Bendigeidfran » Iau 21 Rhag 2006 1:58 pm

Manon a ddywedodd:
Panas wedi eu rhostio efo cymysgedd o olew olewydd a mel yn lyfli, mae o'n mynd mor crispi a neis.

'Dwi 'di clywed bod rhoi cot dena o flawd ar y tatws cyn eu rhostio yn neud nhw'n grenshlyd lyfli... Oes rhywun wedi trio hyn?

Dwi'n rhostio panas fel hyn hefyd, ond yn rhoi moron hefo nhw - bendigedig

Dwi'n meddwl mai'r tatws rhost gora ydi tatws rhost Cernyw - eu berwi'n ysgafn gynta, jyst digon i wneud y tu allan yn feddal. Yna eu tynnu o'r dwr a gadael iddyn nhw oeri dipyn rhag llosgi'ch bysedd.
Yn y cyfamser toddwch dalp go dda o fenyn mewn powlen yn y popty ping (20 eiliad ar wres isel) ac yna ychwanegwch garlleg, pupur du a chydig o fintys sych (a halen môr os ydach chi eisiau).
Yna crafwch wyneb y tatws hefo fforc i wneud rhychau bach drostyn nhw a'u rhoi yn y badell. Tolltwch y menyn drostyn nhw a'u rhoi yn y popty fel arfer - mi gewch chi datws rhost perffaith bob tro!
Ddim gwerth cnec mochyn coron
Rhithffurf defnyddiwr
Bendigeidfran
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Mer 22 Tach 2006 1:40 pm
Lleoliad: Aberpennar

Postiogan Dili Minllyn » Iau 21 Rhag 2006 7:49 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ma gynnon ni veggies dod draw am swpar rôl dolig: unrhyw tips?

Mae hwn i'w weld yn dda, neu mae hwn gan Dudley.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Nôl

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron