Fi sy'n cwco Dolig ma (yikes), ac wrth 'y modd yn neud y sawsys a'r dysgle bach o lysiau sy'n mynd da'r gwledd o rôst cnau cashiw traddodiadol.
Ro'dd y moron drwy scrumpy yn fendigedig un flwyddyn. Wastad yn rhostio tatws gyda rhosmari a garlleg. A cabaits coch, siwgwr brown a gwin coch - lyfli.
Ond o's da'r cwcs yn eich plith unrhyw ryseitie diddorol, neis ar gyfer y cranberry sôs cartre', pwdin bara, stwffin llysieuol, a'r sbrowts, y pys a'r Panas Angelicus? Swn i'n falch o ddysgu rhai newydd - diolch. Sbrouts in Kir, rywun?