Sdim angan y cherry brandy 'na i wneud saws cranbri... Jysd cofia rhoi digon o siwgr achos un flwyddyn nes i un slimline (blydi lol!) ac roedd o'n rhy sharp.
Panas wedi eu rhostio efo cymysgedd o olew olewydd a mel yn lyfli, mae o'n mynd mor crispi a neis.
'Dwi 'di clywed bod rhoi cot dena o flawd ar y tatws cyn eu rhostio yn neud nhw'n grenshlyd lyfli... Oes rhywun wedi trio hyn?
I'r fejis, mi fyddaf yn gwneud Aubegine Thing. 2 dun o domatos wedi'u torri, stoc ciwb a gwerth llond tun o ddwr. Coginio hwn mewn sosban efo 2 lond llaw o ffacpys oren a pherlysiau nadoligaidd (thyme yn neis). Weyn mewn potyn ffwrn rhoi aubegines, tomatos, madarch, peppers mewn layers bach twt. Pan ma'r ffacpys bron a cwcio, tywallt y cwbl dros y layers llysia. Gratio caws cry' ar y top a phobi am hanner awr. Iyhyhym!