jeli llugaeron, cabaits coch melys, moron trwy seidar ayb

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

jeli llugaeron, cabaits coch melys, moron trwy seidar ayb

Postiogan khmer hun » Iau 21 Rhag 2006 10:54 am

Fi sy'n cwco Dolig ma (yikes), ac wrth 'y modd yn neud y sawsys a'r dysgle bach o lysiau sy'n mynd da'r gwledd o rôst cnau cashiw traddodiadol.

Ro'dd y moron drwy scrumpy yn fendigedig un flwyddyn. Wastad yn rhostio tatws gyda rhosmari a garlleg. A cabaits coch, siwgwr brown a gwin coch - lyfli.

Ond o's da'r cwcs yn eich plith unrhyw ryseitie diddorol, neis ar gyfer y cranberry sôs cartre', pwdin bara, stwffin llysieuol, a'r sbrowts, y pys a'r Panas Angelicus? Swn i'n falch o ddysgu rhai newydd - diolch. Sbrouts in Kir, rywun?
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 21 Rhag 2006 11:53 am

Sbrowts wedi eu ffrio mewn llwyth o arlleg yn fendigedig.

Moron glazed, efo lemon yn neis fyd. Coginio nhw mewn chydig bach o ddwr efo siwgr ynddo fo, ychwanegu sdribedi o pîl lemon. Berwi nes bod y moron yn dal chydig yn crynshi.

Sut ma gneud y scrympi moron? Jest berwi nhw mewn scrympi? Na ni?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan khmer hun » Iau 21 Rhag 2006 12:11 pm

Ddim yn cofio lle ges i'r rysait! Na - credu bo ti'n rhoi joch go dda o ddwr cyn y seidar, ond mi o'dd y cyfan yn crynhoi'n garamel bron.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Beti » Iau 21 Rhag 2006 12:19 pm

Stopiwch....

Delwedd

Nes i edrych ar Nigella neithiwr ac o'dd ei bwyd hi'n edrych yn hyfryd, er braidd yn ffyslyd weithie. Ond o'dd y cranbyri sos yn edrych yn biwriffwl.
http://www.bbc.co.uk/food/recipes/datab ... 4760.shtml
I futa fo!
Beti
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 706
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:47 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 21 Rhag 2006 12:20 pm

Ma gynnon ni veggies dod draw am swpar rôl dolig: unrhyw tips?

Da ni garniforiaid yn cal chwadan a ham ond dwisio gneud rwbath sbeshal iddyn nhw fyd. Pei cennin deep fill fyddai'n gneud fel arfar, ond dwi'n siwr bo nhw di cal hwnna o'r blaen.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Beti » Iau 21 Rhag 2006 12:42 pm

Nut roast?! :winc:
I futa fo!
Beti
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 706
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:47 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan khmer hun » Iau 21 Rhag 2006 12:49 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Pei cennin deep fill


Swn i'n falch o gal pei cennin cartre' unrhyw bryd - alla i fenthyca'r rysêt da ti?!

Ro'dd na bei fennel ac olive yn edrych yn hyfryd yn observer bwyddwrnod - nes i dorri fe mas. Na'i drio'i ffeindio.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan khmer hun » Iau 21 Rhag 2006 1:10 pm

Diolch am rysait sôs cranberry Beti - swnio'n mighty fine. O's raid fi gael y cherry brandy chi'n meddwl? Ddim ffansi gwario ceinioge prin ar botel gyfan o'r sdwff...
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 21 Rhag 2006 1:11 pm

Nai drio cofio'i anfon o i ti.

Peis wastad yn mynd lawr yn reit dda, crwstyn cartra'n dangos ôl gwaith a gofal dydi. Dwi'n joio'r broses o wneud toes 'fyd.

Ma na rysait am dartan nionod coch adra rwla fyd. Ma hwnna yn hynod flasus. Ma'r nionod yn troi'r saws hufennog yn las/biws neis! Hydnoed gwell yn oer.

Wwww, 4 dwrnod tan sglaffio gwydd a chipolatas di-rifedi!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan khmer hun » Iau 21 Rhag 2006 1:14 pm

O, flip, dwi'n mynd am fry-up. Fi'n glafoerio...
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron