Eog Mwg

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Eog Mwg

Postiogan Jeni Wine » Maw 09 Ion 2007 4:08 pm

Ma na slab enfawr o eog mwg ar ol yn yr oergell ers Dolig a dwi di bod yn crafu mhen yn meddwl be i neud efo fo.

Oes gan unrhyw un rysaits ar gyfer 'cena eog mwg? Neu bate neu rwbath...?

Dwi'n trio osgoi'r carbs a braster er mwyn llacio fy nhrwsus ar ol Dolig o sglaffio felly peidiwch ag awgrymu quiches plis. A dim canapes na starters chwaith.

ffanciw mowr.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Mali » Maw 09 Ion 2007 5:25 pm

Beth am fymryn bach o cream cheese ac eog wedi ei fygu ar bagel ? Rhywbeth gwahanol a neis iawn i ti i frecwast . Neu scramblo dy wyau , a rhoi tameidiau o'r eog i mewn yn y gymysgedd am y funud olaf.
Neu , os wyt yn fentrus iawn , beth am drio risaet Dudley o swschi eog wedi 'i fygu a chwscws.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Geraint » Maw 09 Ion 2007 5:27 pm

Rho fo i'r gath!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Dili Minllyn » Maw 09 Ion 2007 8:52 pm

Fel llysieuwr, ddylwn i ddim bod yn dy helpu di, ond dwi wedi clywed bod eog mwg yn flasus iawn gyda wyau sgrambl neu wyau wedi'u potsio. Os chwili di ar Google am salmon benedict, mae yna lu o ryseitiau.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Jeni Wine » Mer 10 Ion 2007 10:39 am

iambam... :P
Awgrymiada neish iawn - diolch o droed.

Ond...yn anffodus, pan ddois i adra neithiwr, roedd yr eog wedi diflannu. Dyma ofyn i'w kont-yng-nghyfraith ac mi ddudodd ei fod o wedi ei daflu fo. Grrrrr! Mi oedd o wedi pasio ei ddyddiad ers pythefnos ond dwi ddim yn meddwl bod llawer o ots efo eog mwg nag oes?

Beth bynnag, dwi ffansi prynu peth rwan i mi gael gwneud wya benedict dros y penwsos. Dwi wedi gwneud hwnnw sawl gwaith, ac wya wedi drysu hefo eog hefyd ond dwnim. Ffansi gwneud rwbath amgenach o'n i.

Hip hip hwre i eog mwg!!
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Jeni Wine » Mer 10 Ion 2007 10:40 am

Geraint a ddywedodd:Rho fo i'r gath!


as iff!


er, sa bol y gath yn well lle i'w roid o nag yn y bin!
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Dili Minllyn » Mer 10 Ion 2007 4:46 pm

Mali a ddywedodd:Beth am fymryn bach o cream cheese ac eog wedi ei fygu ar bagel?

Awgrym da. Dyna sut mae'r Iddewon yn ei fwyta fe. Os bydd Maeswyr byth yn nwyrain Llundain, mae lle gwych ar Lôn y Brics.

Sylwer hefyd ar y sillafiad beigel yn y llun cyntaf uchod, o'r hen iaith Yiddish.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron