Dwi ddim yn ddirwestwr, cyn i chi ofyn, ond...
Faint o goffi fyddwch chi yn ei yfed? Paned yn y bore yn unig? Rhyw stwff rhad gwan? Ynteu mwg anferth o dy coffi posh yn ddyddiol? Gwario dros £20 yr wythnos ar y peth? Yn ei hoffi? Byzz bach cyn mynd i'r swyddfa?
Teimlo eich bod yn yfed gormod? Penderfynu mynd hebddo am e.e. wythnos neu fythefnos er mwyn cael cysgu yn iawn heb yr hen gaffein yna yn eich corff?
Paned a ffag hefo'i gilydd ynteu paned a myffin mawr blonegog (ia, diolch geiriadur???!!) llawn siwgr?
Paned a chlonc hefo'ch ffrind yn ystod eich awr ginio?
Un o uchafbwyntiau eich wythnos gwaith?
Coffi arferol ynteu mynd am y petha ffansi yma llawn caffein, hufen, siocled a.y.y.b. ?