Coffi

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Coffi

Postiogan Mr X » Iau 11 Ion 2007 11:03 pm

Dwi ddim yn ddirwestwr, cyn i chi ofyn, ond...
Faint o goffi fyddwch chi yn ei yfed? Paned yn y bore yn unig? Rhyw stwff rhad gwan? Ynteu mwg anferth o dy coffi posh yn ddyddiol? Gwario dros £20 yr wythnos ar y peth? Yn ei hoffi? Byzz bach cyn mynd i'r swyddfa?
Teimlo eich bod yn yfed gormod? Penderfynu mynd hebddo am e.e. wythnos neu fythefnos er mwyn cael cysgu yn iawn heb yr hen gaffein yna yn eich corff?
Paned a ffag hefo'i gilydd ynteu paned a myffin mawr blonegog (ia, diolch geiriadur???!!) llawn siwgr?
Paned a chlonc hefo'ch ffrind yn ystod eich awr ginio?
Un o uchafbwyntiau eich wythnos gwaith?
Coffi arferol ynteu mynd am y petha ffansi yma llawn caffein, hufen, siocled a.y.y.b. ?
Mr X
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 10
Ymunwyd: Iau 11 Ion 2007 10:14 pm

Postiogan Y Celt Cymraeg » Iau 11 Ion 2007 11:42 pm

wel, dwi ddim yn cyfri fy hun fel yfwr mawr o goffi, ond nescafe alta rica fydda i yn ei yfed,ag yn hollol ddu. Os bydd unrhywun mor hu a gofyn am cwpaned o goffi pan ma nhw acw, nescafe normal rhad mae nhw yn i gael. (mae rheol yna yn cael i ddilyn mewn gwin hefyd.. yr un drud i fi, ar un rhad iddi hi..!)
O swyddfa' r cyfarwyddwr
Y Celt Cymraeg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 117
Ymunwyd: Sul 12 Hyd 2003 7:51 pm
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Postiogan ffrwyth melys! » Gwe 12 Ion 2007 12:13 am

CARU coffi. Coffi go iawn bob amser os yn bosib, os na dwi mewn caffi sydd ond yn defnyddio peth rhad neu yn nhy rhywun arall. Wastad yn ddu, dim gronyn o lefrith, hufen, na siwgwr chwaith...a'r cryfaf ydio, neisha ydio i mi wastad :)

Licio nghoffi yn bora os dwin codi ddigon buan i neud yr holl gyboitch efo'r caffetiere (neu sut bynnag ma sillafu'r peth), ac ydw...yn yfad gormod ohono fo masiwr... :? wel, mi nesi neithiwr beth bynnag...adolygu tan berfeddion ag yfad coffi fel diawl... fethish i gysgu tan oddi wedi hannar awr wedi tri..wps.
Rhithffurf defnyddiwr
ffrwyth melys!
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 205
Ymunwyd: Maw 01 Tach 2005 9:24 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 12 Ion 2007 9:28 am

Hit coffi cry' Java wedi'i falu yn siop goffi Mecca, ella un r'ôl cinio.

Ond fel arfer Rooibos am weddill y dydd.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 12 Ion 2007 9:40 am

Dwi yn yfed tua 5 - 6 paned y dydd :ofn: methu blydi cysgu! :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 12 Ion 2007 9:55 am

Dwy fygied o Java o Mecca wedi ei wneud mewn caffatiere syth ar ol cyrredd gwaith, du efo dau siwgwr, a dwi'n iawn am weddill y dydd.

Os dwi di blino'n waeth nag arfer yn cyrred adre ag efo rwbeth ond diogi i neud y noson honno ella gai expresso wedi ei wneud mewn Moka pot ar yr hob. Java eto, ond wedi ei falu yn fanach wrth gwrs. Du efo siwgwr eto.

Ma'r pot ar yr hob yn brysur drwy'r penwythnos hefyd.

Oes gan unrhywun arhymhelliad am goffi tebyg i Java ond fase'n change bach? Columbian Mountain ydi'r llall dwi'n hoff ohono ond ma'n ddrytach.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Prysur » Gwe 12 Ion 2007 10:09 am

Dwi'n ffeindio fod fy Nghymraeg yn gwella wedi myg mawr o goffi. Ond, mae hyn yn ei dro yn codi fy mhwysau gwaed. A'i de-caf yw'r ateb?
Hair Guest
Rhithffurf defnyddiwr
Prysur
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 36
Ymunwyd: Gwe 20 Mai 2005 9:02 am

Postiogan dilwyn-pierce » Gwe 12 Ion 2007 10:24 am

braidd yn ddi-flas 'di de caff dwi'n ffendio, ac pam ti'n meddwl am y peth yfed coffi er mwyn cael y blas wyt ti ..felly be di'r pwint?! .. lavazza grand creme trwy laeth sy'n kickstartio fi bob bora
dwi just a ff**** explodio
Rhithffurf defnyddiwr
dilwyn-pierce
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 46
Ymunwyd: Iau 11 Ion 2007 2:27 pm

Postiogan Prysur » Gwe 12 Ion 2007 10:29 am

Mae coffi yn felltith i'r rhywrai sydd yn diodde o IBS. Mi glywais rywun yn y toiledau yn Eisteddfod y Fenol oedd yn gwneud swn labordy allan o'i din.
Hair Guest
Rhithffurf defnyddiwr
Prysur
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 36
Ymunwyd: Gwe 20 Mai 2005 9:02 am

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 12 Ion 2007 10:31 am

Prysur a ddywedodd:Dwi'n ffeindio fod fy Nghymraeg yn gwella wedi myg mawr o goffi. Ond, mae hyn yn ei dro yn codi fy mhwysau gwaed. A'i de-caf yw'r ateb?


Mae yfed decaff yr un mor di bwyn ag yfed lager di alcohol!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron