Hazha - Bwyty Cwrdaidd

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hazha - Bwyty Cwrdaidd

Postiogan blanced_oren » Sul 21 Ion 2007 11:52 am

Buon ni Hazha neithiwr. Bwyty Cwrdaidd ydy e, yr un cyntaf rwyf wedi'i brofi. Profiad digon hwylus hefyd, heb fod yn arbennig iawn.

Mae'r bwyty yn 48 City Road / Lon Y Plwca, Y Rhath, Caerdydd (pen Newport Road, yr un ochr a Shot In The Dark.)

Bwyd yn OK - prisiau rhesymol, amgylchiadau sylfaenol, gwasanaeth da. I lysieuwyr oedd bron popeth yn llysieu mewn saws tomato gyda fath o gacen reis. Felly ddim yn gyffrous ond wedi cael bwyd llawer gwaeth.

Barnau eraill?
blanced_oren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Iau 24 Chw 2005 6:21 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dili Minllyn » Sul 21 Ion 2007 1:40 pm

Dwi wedi mynd heibio sawl gwaith heb fentro i mewn. Fel dwedaist ti, fel llysieuwr, do'n i ddim yn gweld llawer i 'nhemtio i mewn - mae'r un peth yn wir am y bwytai Libanaidd sydd i'w cael yn ddinas.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 22 Ion 2007 9:59 am

O'n i'n hoff iawn o'r lle. Prisiau rhesymol iawn, y bwyd i gyd (wel, y bwyd ddewises i a'r bobl oedd gyda fi) yn ffres ac yn flasus iawn, ac wrth gwrs, mae modd mynd â'ch gwin/cwrw eich hun. Mae angen gwneud mwy i wella'r awyrgylch a'r décor, ond fe fydden i'n argymell y lle i unrhyw un.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Ray Diota » Llun 22 Ion 2007 11:38 am

bwyty i grwp o fois weden i... iawn am ffîd cyn mynd mas ond sdim lot am y bwyd....
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron