Newydd ddychwelyd o Munich, lle cefais gwledd o rhai o'r cwrw gorau sydd i'w gael yn y byd, ac mae'n rhaid i mi son amdanynt. Mae rhan fwyaf o'r cwrw ar gael yn dod o fragdai lleol Munich, ac yn cael eu bragu yn y ddinas. Mae y bragdai efo eu 'neuaddai cwrw' mawr, lle ma lot o gwrw gwych i yfed, a bwyd bafariaidd da (sef lot o gig moch a selsig!). Dyma rhai o'r uchafbwyntiau:
Yn gyntaf, peint o Schneider Weiss Original Weissbier (cwrw gwenith) wedi cael hwn yn aml o foteli o'r blaen (ar gael o Morrissons), blasu yn arbennig yn y bragdu, yr un sydd ar flaen y botel. Un o'r weissbiers gorau. Y ferswin fwy golua, 'Hell', hefyd yn wych.
Hofbrau Original. Lager clir, ar werth yn yr Hofbrau Haus, neuadd gwrw anferth a mwya enwog Munich (efo lot o dwrsitiad meddw a band mewn full bavarian gear) Ges i gwpl o gwydrau litr o hwn, ac odd o'n mynd lawr yn hynod o dda, hynod o 'crisp'
Spaten Franziskaner Hefe-Weissbier: Oer, cymylog, smwdd, ffrwti.
Augustiner Edelstoff: ges i hwn yn neudd gwrw Augustiner, lager clir o'r safon uchaf.
Ac fy hoff gwrw oedd gan Paulaner. Eu Weissbier, Paulaner Hefe-Weizen, yw y cwrw gwenith gorau dwi erioed wedi flasu, a dyma be yfais y fwyaf o. Gyda rhai weissbiers, mae'n anodd yfed sawl un, ond roedd hwn yn mynd lawr mor hawdd, ac yn mor flasus, heb blas mor cryf a rhai erill, a oedd yn gwnued o'n haws i yfed. Hwn yw y cwrw gorau dwi erioed wedi yfed, heb os. Dwi angen ffeindio fo draw fan hyn. Neith hi gymryd llawer o guro hwn, ond fe wnai barhau i chwilio. Mae dal gannoedd o fathau o gwrw i'w flasu yn yr Almaen. Os da chi'n hoff o gwrw, mae'n werth mynd draw