Tudalen 1 o 2

Cwrw yr Almaen

PostioPostiwyd: Llun 22 Ion 2007 9:38 pm
gan Geraint
Newydd ddychwelyd o Munich, lle cefais gwledd o rhai o'r cwrw gorau sydd i'w gael yn y byd, ac mae'n rhaid i mi son amdanynt. Mae rhan fwyaf o'r cwrw ar gael yn dod o fragdai lleol Munich, ac yn cael eu bragu yn y ddinas. Mae y bragdai efo eu 'neuaddai cwrw' mawr, lle ma lot o gwrw gwych i yfed, a bwyd bafariaidd da (sef lot o gig moch a selsig!). Dyma rhai o'r uchafbwyntiau:

Yn gyntaf, peint o Schneider Weiss Original Weissbier (cwrw gwenith) wedi cael hwn yn aml o foteli o'r blaen (ar gael o Morrissons), blasu yn arbennig yn y bragdu, yr un sydd ar flaen y botel. Un o'r weissbiers gorau. Y ferswin fwy golua, 'Hell', hefyd yn wych.

Hofbrau Original. Lager clir, ar werth yn yr Hofbrau Haus, neuadd gwrw anferth a mwya enwog Munich (efo lot o dwrsitiad meddw a band mewn full bavarian gear) Ges i gwpl o gwydrau litr o hwn, ac odd o'n mynd lawr yn hynod o dda, hynod o 'crisp'

Spaten Franziskaner Hefe-Weissbier: Oer, cymylog, smwdd, ffrwti.

Augustiner Edelstoff: ges i hwn yn neudd gwrw Augustiner, lager clir o'r safon uchaf.

Ac fy hoff gwrw oedd gan Paulaner. Eu Weissbier, Paulaner Hefe-Weizen, yw y cwrw gwenith gorau dwi erioed wedi flasu, a dyma be yfais y fwyaf o. Gyda rhai weissbiers, mae'n anodd yfed sawl un, ond roedd hwn yn mynd lawr mor hawdd, ac yn mor flasus, heb blas mor cryf a rhai erill, a oedd yn gwnued o'n haws i yfed. Hwn yw y cwrw gorau dwi erioed wedi yfed, heb os. Dwi angen ffeindio fo draw fan hyn. Neith hi gymryd llawer o guro hwn, ond fe wnai barhau i chwilio. Mae dal gannoedd o fathau o gwrw i'w flasu yn yr Almaen. Os da chi'n hoff o gwrw, mae'n werth mynd draw :D

Delwedd

PostioPostiwyd: Maw 23 Ion 2007 8:46 am
gan Cymro13
Cofio bod draw yn Nuremberg peth amser yn ol ac odd y cwrw yn lysh

Mae ambell i Weissbier i gael yn Copa yng Nghaerdydd a dwi'n cofio dod ar draws rhai yn Somerfield ychydig o flynyddoedd yn ol ond mewn cans - Ond dal yn well na cwrw Prydeinig :winc:

PostioPostiwyd: Maw 23 Ion 2007 9:36 am
gan Geraint (un arall)
Cwrw gwych yn Munich - piti am yr oom pa pa band yn yr Hofbrauhaus!

PostioPostiwyd: Maw 23 Ion 2007 9:53 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Fi'n gwbod am ddau le yng Nghaerdydd lle mae Paulaner ar gael, sef Chapter a siop Mace ar Heol yr Eglwys Newydd. Ddim yn rhyw lawer o help i ti lan yn y gogledd, yn anffodus, ond rho gynnig ar Mace tro nesa' fyddi di lawr yn y parthe.

Ges di bach o Weihenstephaner hefyd? Iym iym. :P

PostioPostiwyd: Maw 23 Ion 2007 12:21 pm
gan Geraint
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Fi'n gwbod am ddau le yng Nghaerdydd lle mae Paulaner ar gael, sef Chapter a siop Mace ar Heol yr Eglwys Newydd. Ddim yn rhyw lawer o help i ti lan yn y gogledd, yn anffodus, ond rho gynnig ar Mace tro nesa' fyddi di lawr yn y parthe.

Ges di bach o Weihenstephaner hefyd? Iym iym. :P


Paulaner yn chapter eh? Da iawn. Ond Erdinger oedd arfer bod yno, ar tap einwe. O ni arfer bod wrth fy modd efo Erdinger, ond dwi'm yn credu fod e gystal a llawer o gwrw gwenith erill erbyn hyn.

Do ges i Weihenstaphaner, yn Slazburg, gwd sdyff.

Y band oompah yn hofbrauhaus, wel odd e reit doniol ar ol dau litr o gwrw! Es i fyny grisie i drio weld lle oedd y natsiaid arfer cwrdd, ond es i ar goll!

Mae'n rhaid i mi fynd nol i Munich yn yr haf, mae yna nifer o erddi cwrw, yn cynnwys un mawr reit ynghanol parc enfawr, Englishgarten, lle gall cannoedd yfed. Mae yna ardd gwrw arall yn gallu dal 8,000!! :ofn:

Un peth arall i ddweud yw fod y selsig yn yr almaen yn arddechog, ac yn mynd efo'r cwrw yn berffaith - lle da i gael cwrw a selsig oedd yn y farchnad agored, y Viktualienmarkt. Ges i'r hotdog gore dwi riod di gael, a peint o Paulaner, ac ei yfed yn yr awyr agored yngnhanol y farchnad.

PostioPostiwyd: Maw 30 Ion 2007 12:32 pm
gan Geraint
Wedi ffindio boteli o Weihenstaphaner Kristallweissbier ar werth yn yr offi 'The Local' ar stryd fawr Bangor. Yfwch yn oer iawn. Rhagorol.

PostioPostiwyd: Maw 30 Ion 2007 12:35 pm
gan garynysmon
I Cologne dwi di bod, one mae cwrw y Rheindir (Rheinland) a Bavaria yn hollol wahanol.

I fod yn onest, dwi'm yn cofio enwau'r rhai oeddwn i yn eu hyfed.

PostioPostiwyd: Sul 30 Medi 2007 5:35 pm
gan Geraint
Mae o yr amser hynna o'r flwyddyn - Oktoberfest! Dwi wedi bod i Munich ond heb fod i oktoberfest - rhaid i mi fynd rhyw ddydd. Blwyddyn nesa falle, rhywun awydd mynd?

Yn ysbryd yr okoberfest, dwi wedi bod yn gwneud arolwg o gwrw almaeneg sydd ar gael yn offis ac archfarchnadoedd Bangor. Dim llawer o gwmpas ond digon i gadw mi yn hapus am y tro. Plis gadewch mi wybod os oes mwy, a dyw Becks ddim yn cyfri. Dyma'r canlyniad!:

Morrissons:
Schneider Weisse Original
Lowenbrau Original
Bitburger Premium

Tesco (Beer festival mlaen nawr, boteli ond £1.20 a gwydrau ar werth)
Weihenstephan Hefe Weissbier
Paulaner Munchner Hell
Bitburger Premium

The Local, Stryd Fawr Bangor
Franziskaner Hefe Weisbier
Weihenstephan Kristallweissbier

Bargain Booze, Stryd Fawr Bangor
Warsteiner Premium Verum. £1.35 y botel, lager blasus, newydd ddarganfod fod fy offi agosa di dechrau sdocio hwn, cwrw da almaeneg ar gael ond munud allan o'r drws ffrynt! :D

Ma gyd o'r uchod yn blydi hyfryd. Dwi'n obsesd. Yr unig beth sydd angen yw tafarn ffordd hyn sydd efo cwrw almaeneg ar dap. Mae Yates's efo becks vier, sydd yn well na crappy carling etc ond ddim yn patch ar yr uchod.

Y bar En Route ar Cathays Terrace yng Nghaerdydd yw y lle i fynd i am llywthi o foteli almaeneg, os tase ni'n byw yng Nghaerdydd mi fasw ni yna lot rhy aml.

Gyda llaw, gwylies i Beerfest neithiwr, delfrydol i wylio tra'n yfed (neu yn hanfodol i fod yn yfed tra yn ei wylio)

Prost.

Re: Cwrw yr Almaen

PostioPostiwyd: Sad 11 Ebr 2009 10:52 pm
gan Geraint
Schofferhofer Hefeweizen - £1.39 y botel yn Aldi - cwrw gwenith hyfryd!

Delwedd

Hefyd yn Aldi - Spaten Original - Lager o Munich, £1.39 - clir, ysgafn ac oer, alle ni yfed galwyni o'r sdwff.

Re: Cwrw yr Almaen

PostioPostiwyd: Sul 12 Ebr 2009 10:51 pm
gan Madrwyddygryf
Lyfli Diolch Geraint.

Mae Chapter gyda arlwy da o cwrw Almaeneg sydd yn cael ei cadw mewn oergell yn y Bar. Stwff peryglus chwaith.

Ar y llaw arall, os ydych yn ffan o cwrw Almaeneg ond ddim eisiau goryfed oedd gwneud be welais yn Berlin unwaith. Cymysgu Fanta gyda Cwrw Berliner neu Coke gyda Berliner. Neis iawn.