Tudalen 2 o 2

Re: Cwrw yr Almaen

PostioPostiwyd: Sul 12 Ebr 2009 10:51 pm
gan Madrwyddygryf
Lyfli Diolch Geraint.

Mae Chapter gyda arlwy da o cwrw Almaeneg sydd yn cael ei cadw mewn oergell yn y Bar. Stwff peryglus chwaith.

Ar y llaw arall, os ydych yn ffan o cwrw Almaeneg ond ddim eisiau goryfed oedd gwneud be welais yn Berlin unwaith. Cymysgu Fanta gyda Cwrw Berliner neu Coke gyda Berliner. Neis iawn.

Re: Cwrw yr Almaen

PostioPostiwyd: Sul 12 Ebr 2009 11:42 pm
gan Kez
Madrwyddygryf a ddywedodd:
Ar y llaw arall, os ydych yn ffan o cwrw Almaeneg ond ddim eisiau goryfed oedd gwneud be welais yn Berlin unwaith. Cymysgu Fanta gyda Cwrw Berliner neu Coke gyda Berliner. Neis iawn.


RHYBUDD - Mae Sylw ANWEILDYDDOL GYWIR AR FIN YMDDANGOS

Ar y llaw arall, os ydych yn ffan o cwrw Almaeneg ond ddim eisiau goryfed oedd gwneud be welais yn Berlin unwaith. Cymysgu Fanta gyda Cwrw Berliner neu Coke gyda Berliner. Neis iawn.

Am bwffs - sim syndod bod Hitler wedi treial cal gwarad ochi gyd!

Re:

PostioPostiwyd: Maw 14 Ebr 2009 12:13 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
garynysmon a ddywedodd:I Cologne dwi di bod, one mae cwrw y Rheindir (Rheinland) a Bavaria yn hollol wahanol.

I fod yn onest, dwi'm yn cofio enwau'r rhai oeddwn i yn eu hyfed.


Ein Kolsch vielleicht? Y cwrw yng Nghwlen: dod mewn gwydr bach tenau. 0.3litr os y cofiaf yn iawn. Neis iawn. Llwyth o wahanol fathau o Kolsch ar gael.
Kolsch yn ystod Karneval Cwlen. Profiad da.
Yn y pendraw, gwell gen i beint o Wrecsam Lager neu Brains. Mwy diymhongar. Dim wedi ei sbwylio cymaint.

Re: Cwrw yr Almaen

PostioPostiwyd: Maw 14 Ebr 2009 11:34 pm
gan Geraint
Kez a ddywedodd:
Madrwyddygryf a ddywedodd:
Ar y llaw arall, os ydych yn ffan o cwrw Almaeneg ond ddim eisiau goryfed oedd gwneud be welais yn Berlin unwaith. Cymysgu Fanta gyda Cwrw Berliner neu Coke gyda Berliner. Neis iawn.


RHYBUDD - Mae Sylw ANWEILDYDDOL GYWIR AR FIN YMDDANGOS

Ar y llaw arall, os ydych yn ffan o cwrw Almaeneg ond ddim eisiau goryfed oedd gwneud be welais yn Berlin unwaith. Cymysgu Fanta gyda Cwrw Berliner neu Coke gyda Berliner. Neis iawn.

Am bwffs - sim syndod bod Hitler wedi treial cal gwarad ochi gyd!


eh? Pwy sydd yn bwffs, a pwy odd Hitler yn trio cael gwared o?

Jyst trio gweithio allan os ti ar ochr cwrw Prdyain neu yr Almaen - credu fod y rhyfel cwrw dal mlaen!

Re: Cwrw yr Almaen

PostioPostiwyd: Maw 14 Ebr 2009 11:59 pm
gan Kez
Geraint a ddywedodd:
eh? Pwy sydd yn bwffs, a pwy odd Hitler yn trio cael gwared o?


Yfwyr Schofferhofer Hefeweizen wrth gwrs a'u hymlyniad at Aldis

Geraint a ddywedodd:
Jyst trio gweithio allan os ti ar ochr cwrw Prdyain neu yr Almaen - credu fod y rhyfel cwrw dal mlaen!


Beth sydd i gymharu a chwrw Aecht Schlenkerla Rauchbier Märzen o Lidls - oes dim shwt beth a chwrw o Brydain gwerth son amdano!

Re: Cwrw yr Almaen

PostioPostiwyd: Sul 05 Gor 2009 2:45 pm
gan bartiddu
Schofferhofer Hefeweizen - £1.39 y botel yn Aldi - cwrw gwenith hyfryd!


^Newydd brynu llond bocs o'r stwff, gwir pob gair, mae'n flasus iawn est ist sehr gut! :)

Oni'm yn meddwl llawer am y cwrw rhaw, y Spaten, digon di-nod a hefyd yr un Pwyleg sy' 'da nhw sef Okocim ond serch hynny onhw digon da i dorri syched.

Re: Cwrw yr Almaen

PostioPostiwyd: Llun 06 Gor 2009 9:33 am
gan Dwlwen
bartiddu a ddywedodd:...Okocim ...digon da i dorri syched.

Sori i hi-jackio'r edefyn Almenig, ooond ma Okocim hefyd ar gael yn Phillip Morgan, Treganna, er gwybodaeth :winc: Ges i 'mach o hwn wythnos diwetha, a o'n i'n meddwl bod e'n neis iawn. Lot neisach na Zywec (sy hefyd ar gael o P.M.), sef beth odd 'on tap' mewn lot o fariau pan fues i i Krakow.

Tra 'mod i 'ma, oes rhywun wedi dod ar draws cwrw Croat o'r enw Ozujsko? Yfon ni dipyn o hwn yn Zagreb - cwrw hyfryd ar gyfer noson braf o haf - ond wy heb ffeindio fe'n unman tu allan i Croatia. Rhowch showt os ffeindiwch chi fe yng Nghymru, plìs.