Y cawl hawsa'n y byd! Efo sinsir!
Cynhwysion
darn main top bawd o sinsir
dau glôf tew o arlleg
i chilli coch
sblash o olew sesame
sblash o olew olewydd
2/3 shibwns (sbring yniyn)
nwdls
dwy lwy fwrdd o
bast Miso Reis Brown
Nwdls udon reis tew (rhai meddal, nid rhai sych os yn bosib)
Sut...
1. Ffriwch y garlleg, sinsir a'r chilli yn ysgafn yn yr olew mewn sosban â gwaleod trwchus
2. Berwch y tecall
3. Torrwch y shibwns yn fras a thaflwch nhw mewn i'r sosban
4. Gadwch nhw feddalu rhyw fymryn, ond ddim gormod
5. Arllwyswch y dwr berw mewn (rhyw 2 beint-ish)
6. Dowch a fo nôl i'r berw, a throwch o lawr i ferw ysgafn
7. Ychwanegwch y pâst miso (peidiwch a bod yn shei efo fo)
8. Taflwch y nwdls mewn
9. Berwch yn ysgafn nes fod y nwdls yn dyner.
Hei presto, cawl maethlon pîs of piss, mewn 10-munud. Gallwch hefyd ychwanegu cabej wedi'i dorri'n sleisus i roi crynsh ychwanegol yno fo.
Y broblam ydi, ffeindio'r pâst miso a'r nwdls udon yn y lle cynta, ond ma na fwy a mwy o'r rhain ar gael rwan yn arbennig o siopa bwyd iach.
Reit rysait nwdls gan nwdls am y dydd! Twdalw!
Maes-eio ers 2002, yo.