Gwreiddyn Sinsir

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwreiddyn Sinsir

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 09 Chw 2007 3:13 pm

Mi brynish i wreiddyn o sinsir yn yr archfarchnad adeg y Nadolig. Rhyw ysfa oedd yn gyfrifol. Mi ro'n i wedi bod yn nhy ffrind, ac mi wnaeth goffi i fi, ac ar y soser (ia, soser!!) roedd 'na fisged sinsir gartref.

Dwi wedi bod yn edrych ar rysaitiau ers hynny, ac wedi methu ffeindio pwrpas i fy nghwreiddyn gan mai sinsir wedi'i falu sydd angen ymhopeth. Oes rhywun erioed wedi gwneud unrhywbeth efo gwreiddyn sinsir?!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan sian » Gwe 09 Chw 2007 3:18 pm

Fydda i'n ei gratio ac yn ei roi, gyda mêl, ar ham cyn ei rostio.
Blasus!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 09 Chw 2007 4:57 pm

Y cawl hawsa'n y byd! Efo sinsir!

Cynhwysion
darn main top bawd o sinsir
dau glôf tew o arlleg
i chilli coch
sblash o olew sesame
sblash o olew olewydd
2/3 shibwns (sbring yniyn)
nwdls
dwy lwy fwrdd o bast Miso Reis Brown
Nwdls udon reis tew (rhai meddal, nid rhai sych os yn bosib)

Sut...
1. Ffriwch y garlleg, sinsir a'r chilli yn ysgafn yn yr olew mewn sosban â gwaleod trwchus
2. Berwch y tecall
3. Torrwch y shibwns yn fras a thaflwch nhw mewn i'r sosban
4. Gadwch nhw feddalu rhyw fymryn, ond ddim gormod
5. Arllwyswch y dwr berw mewn (rhyw 2 beint-ish)
6. Dowch a fo nôl i'r berw, a throwch o lawr i ferw ysgafn
7. Ychwanegwch y pâst miso (peidiwch a bod yn shei efo fo)
8. Taflwch y nwdls mewn
9. Berwch yn ysgafn nes fod y nwdls yn dyner.

Hei presto, cawl maethlon pîs of piss, mewn 10-munud. Gallwch hefyd ychwanegu cabej wedi'i dorri'n sleisus i roi crynsh ychwanegol yno fo.

Y broblam ydi, ffeindio'r pâst miso a'r nwdls udon yn y lle cynta, ond ma na fwy a mwy o'r rhain ar gael rwan yn arbennig o siopa bwyd iach.

Reit rysait nwdls gan nwdls am y dydd! Twdalw!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 09 Chw 2007 4:59 pm

Sinsir yn reit neis wedi'i stiwio efo riwbob 'fyd, ond ddim gormod, jyst mymryn i roi hit wahanol iddo fo.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Manon » Gwe 09 Chw 2007 5:18 pm

Mae te sinsir yn ysblennyd. Jysd gratia beth, rhoi o mewn dwr poeth am bum munud, ac yna trwy 'strainer, rho fel yn y dwr a voila! Iymiymiym!

'Dwi hefyd ddim yn dallt pam na fedri di rhoi sinsir ffres mewn bisgedi. Byddi di angen llai achos bod o'n gryfach, a beth am iwsho dipyn o'r sinsir sych wedi' falu hefyd? Ac os ydi hyn yn gweithio, ga'i un? :P
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 09 Chw 2007 5:22 pm

Manon a ddywedodd:Mae te sinsir yn ysblennyd. Jysd gratia beth, rhoi o mewn dwr poeth am bum munud, ac yna trwy 'strainer, rho fel yn y dwr a voila! Iymiymiym!


W! Am syniad da. Gratiwr arferol (fatha un caws 'lly?)? Croen/Rhisgyl a chwbl?
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan 7ennyn » Sul 11 Chw 2007 3:25 pm

Dwi erioed wedi trio gwneud peth fy hun - eu prynu nhw mewn paced fydda i - ond medri di drio gwneud sinsir wedi ei grisialu. Byta nhw fel fferins, neu cymysga nhw hefo mascarpone a mafon a rho ddolop o'r gymysgedd ar fisged choc chip.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Manon » Sul 11 Chw 2007 3:32 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:
Manon a ddywedodd:Mae te sinsir yn ysblennyd. Jysd gratia beth, rhoi o mewn dwr poeth am bum munud, ac yna trwy 'strainer, rho fel yn y dwr a voila! Iymiymiym!


W! Am syniad da. Gratiwr arferol (fatha un caws 'lly?)? Croen/Rhisgyl a chwbl?


Ia, gratiwr caws a jysd gratio'r holl beth. Mae nain yn deud bod o'n dda iawn i lwnc poenus ('dwi'n deud bod o'n dda iawn i tastebuds Manon ) :P
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 13 Chw 2007 2:07 pm

Hmmm...sori Manon - er cyn neishad ag oedd o'n swnio, ac er cymaint dwi'n hoff o ddiodydd tebyg, o'n i na'r Dyn yn cîn iawn ar hwn...
Bechod hefyd, achos mi edrychish 'mlaen iddo! (tydi'n dda fod pawb yn wahanol!)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan tafod_bach » Maw 13 Chw 2007 3:35 pm

fariasiwn: torra jync o sinsir, tywallt dwr berwdig ar ei ben, sgwishyn helaeth o leim fres a hanner llwyad o fel hylifog. soser ar ei ben a'i adael am bum munud. mwynhau'r FFRESNI! oooo, mnae chwant un arnai rwan. un o'r peryglon sy'n dod o adael fy leims adre bob dydd mawrth.
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai

cron