Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Maw 13 Chw 2007 4:00 pm
gan khmer hun
Dries i fyta crystallized ginger neu ryw fersiwn cnoi tebyg wrth roi lan smoco unweth. Afiaaaach (ie, fi'n gwbod bod e ddim gwaeth na pheswch yn hun i farwoleth). O'dd y blas yn llechu'n eich ceg am oesoedd ac yn taro'n ôl yn ddirybudd a neud chi ishe gyfogi yn ganol ryw sgwrs. Fuodd y paced yn y drôr am fisoedd.

Ond fi'n siwr bo tê sinsir yn neis iawn. Rather you...

PostioPostiwyd: Maw 13 Chw 2007 5:48 pm
gan Manon
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Hmmm...sori Manon - er cyn neishad ag oedd o'n swnio, ac er cymaint dwi'n hoff o ddiodydd tebyg, o'n i na'r Dyn yn cîn iawn ar hwn...
Bechod hefyd, achos mi edrychish 'mlaen iddo! (tydi'n dda fod pawb yn wahanol!)


Sori am neud i chdi wastio dy sinsir. :wps:

Mae fy ngwr yn rhostio tomatos efo sinsir a tam bach o finegr balsamic, bach o siwgr ar y top, ac wedyn yn rhoi o efo pasta. Iym iym.

PostioPostiwyd: Maw 13 Chw 2007 5:50 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Manon a ddywedodd:Sori am neud i chdi wastio dy sinsir. :wps:


Dim o gwbwl! Mae gen i bethwmbrath o'r stwff! Tisho fi bostio fo i chdi?! :lol:

PostioPostiwyd: Maw 13 Chw 2007 8:24 pm
gan Chwadan
Fyddai'n ei dorri fo'n stribedi tenau ac yn ei ffrio fo efo garlleg, wedyn ychwanegu cyw iar, madarch, niionyn coch, babi corn melys, mange tout, nwdls, soy sauce a sudd lemon. Neish.