Pan oeddwn yn blentyn, roedd llaeth yn cael ei osod ar stepen y drws cyn bo neb o'r tylwyth yn codi. Dim ond llaeth llawn braster oedd ar gael ar y pryd. Roedd y braster (yr hufen) yn arnofio ar ben y botel. O godi cyn gweddill y teulu roedd modd imi gael yr hufen ar ben y creision ŷd! (Os nad oedd titw tomos glas wedi sugno'r hufen cyn i mi cael y cyfle i'w hachub o'r stepen). Trît a hanner
Bellach rwy'n prynu llaeth yn Tesco, ac yn dueddol o brynu llaeth sgim (llefrith, yn hytrach na llaeth go iawn). Ond rwyf wedi sylwi nad oes hufen yn arnofio ar ben y poteli llaeth llawn braster honnedig yn Tesco chwaith.
Pam?