Hufen ar ben llaeth

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dili Minllyn » Maw 13 Chw 2007 3:50 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:
Dili Minllyn a ddywedodd: tua £45 y mis am un peint o laeth sgim (i fi a'r wraig)


Deeew, feddylish i 'rioed taw gwr oeddet ti... (neu ydwi'n camddeall eto?!) :)

Ambell waith, mi fydda i'n difaru'r ffugenw (a'r llun) benywaidd, ond hoffter am weithiau Beatrix Potter a Gwen John sy'n gyfrifol am y ddau beth, yn hytrach nag unrhyw awydd i fod yn ddynes.

Beth bynnag, beth yw pris arferol peint o laeth?
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Mr Gasyth » Maw 13 Chw 2007 3:51 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:
Dili Minllyn a ddywedodd: tua £45 y mis am un peint o laeth sgim (i fi a'r wraig)


Deeew, feddylish i 'rioed taw gwr oeddet ti... (neu ydwi'n camddeall eto?!) :)


Na finne chwaith. Merch fu Dili i mi erioed.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 13 Chw 2007 3:52 pm

33c yw peint yn Tesco yn ôl eu gwefan (fyddai'n un o'r bobl 'na sydd ddim wir yn sylwi ar brisiau bwydydd angenrheidiol os nad oes 'na sêl o rhyw fath ymlaen!)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dili Minllyn » Maw 13 Chw 2007 3:56 pm

Felly, dwi'n talu rhyw 15c y peint am gludiant (at 'nrws) a chysondeb y cyflenwad (sef na fydda' i byth yn brin o laeth, oni bai fod damwain tryc llaeth erchyll yn digwydd).
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 13 Chw 2007 3:56 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Ambell waith, mi fydda i'n difaru'r ffugenw (a'r llun) benywaidd, ond hoffter am weithiau Beatix Potter a Gwen John sy'n gyfrifol am y ddau beth, yn hytrach nag unrhyw awydd i fod yn ddynes.


Digon teg. Wyt ti wedi bod yn gweld y ffilm ddiweddar am hanes B.Potter? (os wyt ti, allset ti agor edefyn yn sôn amdani plis?!) Sut un oedd hi?

Gwr tebyg i ti dwisho, 'te! - Sortio'r dyn llaeth allan, pobi cacen ffenest, siopa....! Waaaaw... 8) :wps: (Sori fy Nyn...!)

P'run bynnag - llaeth. 33c/peint yn Tesco.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 13 Chw 2007 3:59 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:...oni bai fod damwain tryc llaeth erchyll yn digwydd).


Haha - cyn i un o'r hogia oedd yn yr ysgol efo fi basio'i brawf gyrru, mi falodd ddau gar, a fflôt laeth! Mi gwthiodd hi i'r ffôs dros ei phen...! :lol:

Dyma linc i'r edefyn ddechreuish i sbel yn ôl yn gofyn am wybodaeth dyn llaeth. Bydd rhaid i mi weithredu ar y wybodaeth cyn hir, dwi'n meddwl.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan sian » Maw 13 Chw 2007 4:07 pm

Ar ôl rhai blynyddoedd reit ansefydlog - y naill ddyn llaeth ar ôl y llall yn rhoi'r gorau iddi (sydd, efallai'n profi nad yw dynion llaeth yn gwneud eu ffortiwn) - does gennym ni ddim dyn llaeth o gwbl erbyn hyn.
Roedd yn rhyfedd iawn ar y dechrau ond mae rhywun yn dod i arfer - ac rydyn ni'n gallu rheoli'r sefyllfa'n well - o'r blaen, roedden ni naill ai'n byw ar bwdin reis am ddyddiau am fod 'na ormodedd o laeth neu'n gorfod rhannu diferyn rhwng dau i gael paned. Ac os yw'n wir nad yw cartons gymaint â hynny'n waeth i'r amgylchedd, rwy'n teimlo'n well am y peth.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan huwwaters » Maw 13 Chw 2007 5:59 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:
Dili Minllyn a ddywedodd:...oni bai fod damwain tryc llaeth erchyll yn digwydd).


Haha - cyn i un o'r hogia oedd yn yr ysgol efo fi basio'i brawf gyrru, mi falodd ddau gar, a fflôt laeth! Mi gwthiodd hi i'r ffôs dros ei phen...! :lol:

Dyma linc i'r edefyn ddechreuish i sbel yn ôl yn gofyn am wybodaeth dyn llaeth. Bydd rhaid i mi weithredu ar y wybodaeth cyn hir, dwi'n meddwl.


Be, rwbeth tebyg i hyn?

http://www.flickr.com/photos/gey659/81742502/
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 13 Chw 2007 6:02 pm

Ia, ond mai fflôt laeth wnaeth o wthio i'r ffôs, nid tancer. Poteli llefrith yn sgrialu i bob man! :lol:
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dili Minllyn » Maw 13 Chw 2007 8:43 pm

Dyma'r math o beth dwi'n ei gofio yn dod â'r llaeth pan o'n i'n fach. 8) Mae'r tŷ tu ôl yn edrych yn rhyfeddol o debyg i dŷ fy rhieni hefyd. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron