Dwi ddim yn siwr! Ond o'n i'n arfer gweithio mewn hufenfa flynyddoedd maith yn ol, felly mi fentrai
guess.
Mae poteli yn cael eu trin yn reit ryff yn y llaethdy a buan iawn y byddan nhw'n grafiadau drostynt. Esgus gwan i'w taflu i ffwrdd ella, ond mae'r farchnad manwerthu llefrith yn gystadleuol iawn y dyddiau yma ac felly mae'n rhaid i'r poteli edrych ar eu gorau. Hefyd mae maluriadau yn gyffredin iawn ac mae poteli yn gallu 'mynd ar goll'.
O'n i'n darllen y newyddion bore 'ma ac mae yna ddau o hufenfeydd yn y gogledd 'ma am ddechrau gwerthu llefrith mewn
cwdynnau plastig - yn rhannol er mwyn trio adfer dosbarthu o ddrws i ddrws. Ella bysa hi'n bosib i'r dyn llefrith eu postio trwy'r blwch llythyrau i atal y titw tomosus a'r hogyn papur newydd rhag eu dwyn.
[gol. Neges wedi croesi - dwi'n deipiwr uffernol o slo!]