Hufen ar ben llaeth

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hufen ar ben llaeth

Postiogan Hen Rech Flin » Llun 12 Chw 2007 5:24 am

Pan oeddwn yn blentyn, roedd llaeth yn cael ei osod ar stepen y drws cyn bo neb o'r tylwyth yn codi. Dim ond llaeth llawn braster oedd ar gael ar y pryd. Roedd y braster (yr hufen) yn arnofio ar ben y botel. O godi cyn gweddill y teulu roedd modd imi gael yr hufen ar ben y creision ŷd! (Os nad oedd titw tomos glas wedi sugno'r hufen cyn i mi cael y cyfle i'w hachub o'r stepen). Trît a hanner :)

Bellach rwy'n prynu llaeth yn Tesco, ac yn dueddol o brynu llaeth sgim (llefrith, yn hytrach na llaeth go iawn). Ond rwyf wedi sylwi nad oes hufen yn arnofio ar ben y poteli llaeth llawn braster honnedig yn Tesco chwaith.

Pam?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Chip » Llun 12 Chw 2007 9:00 am

efaillai achos ma'r llaeth yn cael ei dwymo i lladd y byggs a falle bod hyn yn neud rywbe i'r hufen? ond wild guess ydy hono. neu falle ma'r hufen yn cael ei wahnu er mwyn ei werthu ar wahan fel hyfen.
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Postiogan huwwaters » Llun 12 Chw 2007 2:11 pm

Dwi'n cofio poteli llefrith wrth y drws pan o ni'n fach. Dwi dal yn eu cael, ond ddim rhai hufen llawn.

Dwi'n cofio fy mam, yn rhoi bob yn ail bore i mi a'm chwaer, 'top yr hufen' ar ein creision yd cyn mynd i'r ysgol. Hyfryd.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Mr Gasyth » Llun 12 Chw 2007 2:26 pm

Roedd hi wastad yn ffeit am gael agor potel newydd i gael yr hufen efo'r Frosties pan on i'n blentyn hefyd. Dwi'n siwr i mi ddarllen yn rhwyle fod llefrith bellach yn cael ei drin fel fod yr hufen yn cael ei wasgaru yn gyson drwy'r botel/carton.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan khmer hun » Llun 12 Chw 2007 2:44 pm

Finne'n cofio'r poteli a'r hufen. Pam bod arferion fel hyn yn gorfod dod i ben? Ai jyst hen ffasiwn dw i? Ai Maggie Thatcher oedd ar fai am bod Rich Penlan wedi gorfod rhoi'r gore i ddosbarthu llaeth (mewn whilber pan ddoi'r eira)? Pam bod yn rhaid i ni gael poteli plastig, scourge ein cenhedlaeth, yn lle gwydr neu bapur?
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Jon Bon Jela » Llun 12 Chw 2007 3:47 pm

Wel, achos bod cael llaeth wedi'i ddosbarthu i'ch ty yn

a) Ffaff
b) drutach na llaeth plastig
c) yr adar bach diawledig yn yfed yr hufen.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan løvgreen » Llun 12 Chw 2007 3:57 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd:Wel, achos bod cael llaeth wedi'i ddosbarthu i'ch ty yn

a) Ffaff
b) drutach na llaeth plastig
c) yr adar bach diawledig yn yfed yr hufen.


a) be di "ffaff"?
b) ydi, ocê.
c) ddim yn fama den nhw ddim.

Mae'n gyfleus iawn cael y llaeth i'r ty yn y bore. Sdim byd gwaeth na bod heb laeth, a gorod mynd lawr i'r siop cyn gallu cael brecwast. Ond dwi inne'n hiraethu am yr hufen ar y top hefyd (er mai semi sgim ydwi'n gael erbyn hyn)
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Postiogan huwwaters » Llun 12 Chw 2007 4:13 pm

Yr unig amser yr oedd adar yn pecio'r ffoil ar ben y llefrith, oedd pan oedd hi'n rhewi y tu allan, a dim ond brain a piodennod oedd yn gwneud.

Mae defnyddio poteli gydr yn fwy 'gwyrdd' gan eu bod yn cael eu casglu, eu steryllu a'i hailddefnyddio dro ar ôl tro.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan 7ennyn » Llun 12 Chw 2007 7:09 pm

Mae bron pob peint o lefrith a werthir heddiw wedi cael ei homogeneiddio. Mae'r broses yma yn chwalu'r globiwlau braster yn fan fan gan greu emylsiwn sefydlog sydd ddim yn gwahanu mor sydyn. Dwi ddim yn siwr yn fan hyn, ond dwi'n meddwl bod di-heintio trwy Pasteureiddio yn fwy effeithiol os ydi'r llefrith wedi ei homogeneiddio. Dyna un rheswm pam bod llefrith heddiw yn cadw'n ffresh am bythefnos, yn hytrach nag am dridiau.

huwwaters a ddywedodd:Mae defnyddio poteli gydr yn fwy 'gwyrdd' gan eu bod yn cael eu casglu, eu steryllu a'i hailddefnyddio dro ar ôl tro.

Myth ydi hyn yn anffodus! Tua 6 llenwad ydi oes potel wydr ac mae'r peiriant golchi a steryllu yn defnyddio lot fawr o ynni, heb son am greu llygredd yn lleol. Mae'r jariau plastig gwag yn cael eu cludo i'r hufenfa gan yr un loriau a sydd yn cludo'r jariau llawn yn ol i'r ganolfan ddosbarthu.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 12 Chw 2007 9:42 pm

Ma'r Dyn yn deud bod nhw'n dal i allu cael hufen ar ben potel lefrith top arian (nes 3 mis yn ôl, pan fu farw'r dyn llaeth - felly ella nad ydio'n bosib bellach!)

Aparyntli, roedd posib cael llaeth swpyrdwpyr hufenog hefyd, ond 'dio'm yn cofio pa liw oedd y caead (colour blind eniwe).
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron