Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Mer 14 Chw 2007 9:56 am
gan Dili Minllyn
A mynd yn ôl at y busnes llaeth capan gwyrdd, buodd rhyw ymgais ychydig flynydoedd yn ôl i'w wahardd, ond dwi ddim yn siwr be' ddaeth o'r peth. Mae'n debyg bod rhai'n dal i'w werthu, ond bod rhyw reolau'n cyfynygu arnyn nhw.

PostioPostiwyd: Mer 14 Chw 2007 10:31 am
gan Fflamingo gwyrdd
Dili Minllyn a ddywedodd:Dyma'r math o beth dwi'n ei gofio yn dod â'r llaeth pan o'n i'n fach.


Be' mae'nhw'n iwsho rwan 'ta?! O'n i'n meddwl mai dyna oedd pob dyn llefrith yn ei yrru... :? (Dyna oedd 'na acw 'sdalwm 'fyd)

PostioPostiwyd: Mer 14 Chw 2007 10:43 am
gan Dili Minllyn
Meddwl am lifrai gwyn a glas smart llaethdy'r Express Dairy o'n i. Tynnwyd y llun yn Whetstone, gogledd Llundain - lle roedd eu pencadlys - yn agos iawn i'r lle ro'n i'n byw yn yr 1970au.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Chw 2007 7:33 pm
gan Fflamingo gwyrdd
7ennyn a ddywedodd: Tua 6 llenwad ydi oes potel wydr...


Be'di'r rheswm? Ti'n gwbod?

PostioPostiwyd: Gwe 16 Chw 2007 7:47 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Wel am gyd-ddigwyddiad! Funudau ar ôl i fi ofyn hynna, daeth eitem ar y newyddion:

Mae llaethdy yng Nghoed Poeth (ger Wrecsam) yn cynhyrchu llaeth mewn bagiau, o wahanol feintiau, sy'n biodegradable. Mae'n debyg eu bod yn pydru i nesa peth i ddim (a ddim yn cymryd lle yn y biniau)

PostioPostiwyd: Gwe 16 Chw 2007 8:07 pm
gan 7ennyn
Dwi ddim yn siwr! Ond o'n i'n arfer gweithio mewn hufenfa flynyddoedd maith yn ol, felly mi fentrai guess.

Mae poteli yn cael eu trin yn reit ryff yn y llaethdy a buan iawn y byddan nhw'n grafiadau drostynt. Esgus gwan i'w taflu i ffwrdd ella, ond mae'r farchnad manwerthu llefrith yn gystadleuol iawn y dyddiau yma ac felly mae'n rhaid i'r poteli edrych ar eu gorau. Hefyd mae maluriadau yn gyffredin iawn ac mae poteli yn gallu 'mynd ar goll'.

O'n i'n darllen y newyddion bore 'ma ac mae yna ddau o hufenfeydd yn y gogledd 'ma am ddechrau gwerthu llefrith mewn cwdynnau plastig - yn rhannol er mwyn trio adfer dosbarthu o ddrws i ddrws. Ella bysa hi'n bosib i'r dyn llefrith eu postio trwy'r blwch llythyrau i atal y titw tomosus a'r hogyn papur newydd rhag eu dwyn.

[gol. Neges wedi croesi - dwi'n deipiwr uffernol o slo!]