Hanner kilo o Chicken Biryani ffres am 70p o whole foods yn seeb, Muscat.
Ar yn ail, lopsgows :
1 darn o corff oen bach wedi marw (scrag end yn draddodiadol)
2 nionyn
moron
tatws
rwdan
rosemary
halan a pupur
torri un nionyn a''i roi mewn sosban o ddwr efo'r oen
simro'r darn o'r hen oen bach druan am awr o leiaf, nes bo'r cnawd yn disgyn oddi ar yr asgwrn
oeri'r asgwrn, a'i roi i gi diolchgar
tynnu'r cig oen allan o'r stoc a'i gadw dros nos
tynnu'r nionyn allan o'r stoc a'i daflu
Rhoi'r stoc yn yr oergell dros nos
wedi oeri, tynnu'r haen o frasder caled o wyneb y stoc a'i daflu. Peidiwch ag anghofio hyn, credwch fi mi fydd y sgows yn disgusting os na wnewch
ail-dwymo'r stoc, ag adio'r rwdan am 5 munud pan yn simro
adio'r tatws a moron a nionyn wedyn (tua 50-50 rwdan/tatws)
pan mae'r tatws bron yn barod, adio'r hen oen bach a'r rosemary/halan/pupur
mae rhai yn licio defnyddio llond dwrn o pearl barley hefyd
Buta'r lopsgows efo caws di gratio a potel o win a bara ffres, a wedyn eistedd of flaen tan a gorffen y botel. mmmMMMMMmmmm