Bwyta'n dda ac yn RHAD

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Blewyn » Mer 23 Mai 2007 4:30 am

Hanner kilo o Chicken Biryani ffres am 70p o whole foods yn seeb, Muscat.

Ar yn ail, lopsgows :

1 darn o corff oen bach wedi marw (scrag end yn draddodiadol)
2 nionyn
moron
tatws
rwdan
rosemary
halan a pupur

torri un nionyn a''i roi mewn sosban o ddwr efo'r oen
simro'r darn o'r hen oen bach druan am awr o leiaf, nes bo'r cnawd yn disgyn oddi ar yr asgwrn
oeri'r asgwrn, a'i roi i gi diolchgar
tynnu'r cig oen allan o'r stoc a'i gadw dros nos
tynnu'r nionyn allan o'r stoc a'i daflu
Rhoi'r stoc yn yr oergell dros nos
wedi oeri, tynnu'r haen o frasder caled o wyneb y stoc a'i daflu. Peidiwch ag anghofio hyn, credwch fi mi fydd y sgows yn disgusting os na wnewch
ail-dwymo'r stoc, ag adio'r rwdan am 5 munud pan yn simro
adio'r tatws a moron a nionyn wedyn (tua 50-50 rwdan/tatws)
pan mae'r tatws bron yn barod, adio'r hen oen bach a'r rosemary/halan/pupur

mae rhai yn licio defnyddio llond dwrn o pearl barley hefyd

Buta'r lopsgows efo caws di gratio a potel o win a bara ffres, a wedyn eistedd of flaen tan a gorffen y botel. mmmMMMMMmmmm
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Cacamwri » Gwe 22 Meh 2007 4:31 pm

Berwi sosbaned o reis...ffreio bacwn, wynwns, pupur gwyrdd, coch a melyn, shibwns a myshrwms...yna cymysgu'r cwbwl gyda'i gilydd, a ychwanegu soy sauce.
Gwd.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan SbecsPeledrX » Sul 01 Gor 2007 9:08 am

Be am omlette a chips? Mae wyau a tatws digon rhad.

Neu bara llefrith, rhwygo dau dafell o fara mewn i powlen, llefrith dros y top. Hanner llwyad o siwgr, nobben fach o menyn. 2 funud yn y meicradon. troad, a hey presto.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Cacamwri » Sul 01 Gor 2007 9:23 am

Ychwanega tea bag i'r bara llath Sbecs, a bydde fe lot mwy ffein. Mond bo ti'n cofiop tynnu'r tea bag mas cyn ei fyta. :winc:
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan Jon Bon Jela » Sul 07 Hyd 2007 8:31 pm

Spaghetti, persli, garlleg ac olew grawn yr olewydd yn un maethlon ac yn un sy'n handi yn ystod y dyddiau sy'n arwain at siec ddiwedd mis.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Nôl

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron