Bwyta'n dda ac yn RHAD

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Y Crochenydd » Maw 13 Maw 2007 11:44 am

Ray Diota a ddywedodd:
[wthnos dwetha on i'n cal smoked salmon starter bob nos gan nad on i di sylweddoli ar fy sgintrwydd :ofn: - ma'r dyddie 'ny ar ben am sbel! :( ]


Pam na bryni di baced o smoked salmon offcuts? Mae nhw'n blasu'r un peth, jest bo nhw'n rhatach (elli di gael rhai Tesco Value). Jest y peth am frecwast posh gyda wye di sgramblo.

Cerig gleision hefyd yn rhatach na'r disgwyl a macrell wedi'i grilio llawn cystal a sardins. Llawn omega 3 hefyd :winc:
Y Crochenydd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 195
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 6:44 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Manon » Maw 13 Maw 2007 11:45 am

Ma' well gin ina quorn hefyd Wierdo. Y bits o cartilidge ti'n cael mewn mins go iawn ... :?

Carbonara'n rhad. Jysd sbageti efo cig moch, tam bach o hufen a garlleg. Mae o'n anhygoel o neis.

Cauliflower cheese hefyd, os wnei di dy saws dy hun. Neis efo broad beans.

Dwisho bwyd wan.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 13 Maw 2007 12:19 pm

Mmmm, iau.

Dyma'n hof rysait iau.

6 clove tew o arlleg wedi ei dorri'n fân.
Olew
3-4 lwmpyn o iau oen

Ffrio'r iau yn yr olew nes bo nhw'n dechra brownio. Ond paid cwcio nhw ormodol, sdim byd gwaeth na iau sych a ma bach o binc tu mewn yn ocê. Galli dorri un i weld sut mae o tu mewn.

Cadw nhw i un ochr yna ffrio'r garlleg i gyd yn yr olew sydd ar ôl nes eu bod yn dechra meddalu. Yna tua 4 llwy fwrdd o finegr gwin gwyn (neu goch rili) yn y badell. Cue, lot o swn, stem a arogleuon lyfli. Troi gymysgedd nes bod y sdwff neis brown i gyd wedi dod oddi ar waelod y pan a bod yr hylif wedi lleiahu o hanner. Tollti hwn fel saws dros y cig.

Biwtiffyl.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan khmer hun » Maw 13 Maw 2007 12:50 pm

Un rili blasus o'r Eidal:

Garllicyn a digon o olew'r olewydd yn y pan, stribedi bacwn (neu stribedi pupur coch a melyn os chi'n veji) yna adio pentwr o bys di'u rhewi, a ffrio'r cyfan nes bod y pys yn duo. Llond sosban o sbaghetti mewn dwr berw gyda bay leaf ac dropyn o olew. Siafins trwchus o parmiggiano reggiano (er bo ti'n sgint mae'n werth buddsoddi) dros y cyfan a lluwch eira o bupur du.

Digon i'th ddiwallu am oes pys fel tae.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Manon » Maw 13 Maw 2007 1:22 pm

khmer hun a ddywedodd: Siafins trwchus o parmiggiano reggiano (er bo ti'n sgint mae'n werth buddsoddi) .


Ar gael yn rhad yn Lidl!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Chwadan » Maw 13 Maw 2007 4:53 pm

Manon a ddywedodd:
khmer hun a ddywedodd: Siafins trwchus o parmiggiano reggiano (er bo ti'n sgint mae'n werth buddsoddi) .


Ar gael yn rhad yn Lidl!

Hel ie!
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan ceribethlem » Mer 14 Maw 2007 9:02 am

Fish Pie yn ddigon hawdd.

Pysgod rhad (e.e. coley) wedi rhewi.
Saws gwyn (menyn, blawd a llaeth).
Tato stwnsh a chaws.

Coginio'r pysgod a hwpo nhw mewn yn y saws gwyn, gyda perlysiau megis sage, a phys pe dymunir. Tato stwnsh dros y top, gyda chaws ar ei ben. Yn y ffwrn am ddeg munud.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Rhodri » Mer 14 Maw 2007 9:30 am

Ffor ymlaen ydy prynnu lwmp anferthol o gig, rhostio'r cythrel yn un lwmpyn dechre'r wsnos a dibynnu arno am dydddiau wedyn. Ma'n safio peth diawl o lot o bres a fedri di neud llwyth o betha allan ohonofo jysd efo nionyns a llysia o bob math a bechdans.

Os na ydy hynna'n gneud, ma uwd a jam yn blydi rhad.
shifft y westral!
Rhodri
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 285
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 2:07 pm
Lleoliad: Put-Jelly

Postiogan ceribethlem » Mer 14 Maw 2007 9:31 am

Rhodri a ddywedodd:Os na ydy hynna'n gneud, ma uwd a jam yn blydi rhad.
Uwd heb jam yn rhatach :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan sanddef » Llun 26 Maw 2007 3:04 pm

Lentils coch. Os ti'n nabod unrhyw stiwdants, gofyn iddynt am lentils coch. Byddan nhw'n dweud "Na, does gynnon ni ddim lentils coch, dan ni byth yn prynu nac yn bwyta lentils coch", ond os ti'n edrych yn y cwpwrdd tu ol i bopeth, fe fyddi di yn sicr o ddarganfod pecyn llawn o lentils coch. Mae'n fel cyfraith gosmig neu rwbath: Cegin + Stiwdants = Lentils Coch. Stiwdant ydw innau, felly dw'i'n gwbod am be dw'i'n siarad. :winc:
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron