Bwyta'n dda ac yn RHAD

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bwyta'n dda ac yn RHAD

Postiogan Ray Diota » Llun 12 Maw 2007 3:46 pm

Shwchi?

Wy'n sgint fel eriôd o'r blân ar y foment, so co fi'n gofyn am gyngor ar shwt ma bwyta'n neis ac yn rhad...

Wy'n joio mwyd, cofiwch, so sai moyn clywed am ryw swpyr nwdls ar dôst a chachu fel'ny...

Licen i ryseitiau RHAD, HAWDD, SWMPUS a BLASUS!

Awe!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Cacamwri » Llun 12 Maw 2007 4:07 pm

Y pryd rhata dw i di neud yw mince efo taglatelle. Trip i Sommerfield, a gweld bod y mince yn 39p, coginio hwnnw efo chydig o wynwns a neud grefi ar ei ben o, yna berwi taglatelle...ac os wyt ti'n un am lysie, ma nhw'n ddigon rhad fyd. Protein i ti fanna,a carbs.
Mince - cig y werin 8)
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan sian » Llun 12 Maw 2007 4:20 pm

Belly pork yn rhad ac yn flasus ac yn llenwi'r bol.
A bacon bits gyda thato moron a winwnsyn.
Reis a winwnsyn.
Tato, pasta, reis a n?dls yn ddigon rhesymol.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 12 Maw 2007 4:36 pm

Mae lentil dhal yn rhad, blasus, swmpus a hawdd i'w wneud.

http://www.theppk.com/recipes/dbrecipes ... cipeID=127

Spicy chick peas yn grêt fyd.

Tun o chick peas, tun o toms, nionyn, garlleg, chynk o ginger, chillis, coriander, cumin, cinnamon. Os oes gen ti unrhyw lysiau gwyrdd, mewn a nhw.

Cawl wastad yn ffefryn ar gyfer sgintrwydd - jest lobsgows heb y cig, neu jest prynu homar o fag o foron i neud cawl moron trwchus.

Pasta pesto craime fraiche hefyd yn rhad. 1 jar o pesto ac un twb o craime fraiche yn gneud 3 pryd. Ychwanegu garlleg, nionod a cwrjetan os tisio amrywio. Ma'r craime fraiche yn neud iddo deimlo fel rhywbeth llawer mwy blasus na jest pasta pesto arferol.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 12 Maw 2007 4:39 pm

Anghofies i am omlets a egg fried rice cartre. Fried rice cartre efo digon o soy a 5 spice yn neud pryd bach iawn.

Pizzas Coop yn fargen fyd. 2 am £4. Biwt. Jest pentyrru nhw wedyn efo unrhyw stwff sy'n y cwpwrdd a digon o tabasco i guddio unrhyw combinations blas od.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Cacamwri » Llun 12 Maw 2007 5:12 pm

Cassarol bacwn di ffefryn y gwr 'cw - jyst moron, tatws a stribedi o facwn a stoc, a rhoi o'n y ffwrn tan iddo gwcan. Sortid.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan sian » Llun 12 Maw 2007 5:16 pm

Cacamwri a ddywedodd:Cassarol bacwn di ffefryn y gwr 'cw - jyst moron, tatws a stribedi o facwn a stoc, a rhoi o'n y ffwrn tan iddo gwcan. Sortid.


Ro'n ni'n cael rhywbeth tebyg (gyda winwnsyn i roi blas) pan o'n ni'n fach - "bwyd bys tost" o'dd 'y mrawd bach yn ei alw fe achos o'dd e'n lico fe gymint o'dd e'n cydio'n sownd sownd yn y fforc ac o'dd hi'n gadel ei hôl ar ei fys.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 12 Maw 2007 5:17 pm

'Di pawb ddim yn ei hoffi, ond mae iau/afu'n ddiawledig o rad (a neis)... Mae iau mochyn yn llai cryf ei flas na iau oen (dwi'n meddwl mai ffordd yna rownd ma'nhw)
Ffria'r iau/afu efo bacwn a nionyn, wedyn rho ddwr drostyn nhw yn y badell a chaead ar ei phen am sbel (cornflower i dewhau'r grefi os tisho), a bingo! Chydig o datw mash (neu datw melys), beeeeendigedig. 8)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan sian » Llun 12 Maw 2007 5:25 pm

Cofia bod brecwast yn help i dy gadw di i fynd - ac yn rhatach na snacs.
Sanwej bêcyn, tost neu siriyl yn ddigon rhad + coffi llaeth neu ddrincing tshoclet. Fyddi di'n iawn tan ginio wedyn.
Be ti'n neud i ginio? Alli di neud bocs bwyd?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan huwwaters » Llun 12 Maw 2007 5:51 pm

Cymysga red kidney beans, chickpeas, butterbeans, creme fraiche a darnau o gig o unrhyw fath - ham, bacen, cyw iâr, pastrami - mewn padell, gyda macaroni neu unrhyw pasta arall.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron