Mae lentil dhal yn rhad, blasus, swmpus a hawdd i'w wneud.
http://www.theppk.com/recipes/dbrecipes ... cipeID=127
Spicy chick peas yn grêt fyd.
Tun o chick peas, tun o toms, nionyn, garlleg, chynk o ginger, chillis, coriander, cumin, cinnamon. Os oes gen ti unrhyw lysiau gwyrdd, mewn a nhw.
Cawl wastad yn ffefryn ar gyfer sgintrwydd - jest lobsgows heb y cig, neu jest prynu homar o fag o foron i neud cawl moron trwchus.
Pasta pesto craime fraiche hefyd yn rhad. 1 jar o pesto ac un twb o craime fraiche yn gneud 3 pryd. Ychwanegu garlleg, nionod a cwrjetan os tisio amrywio. Ma'r craime fraiche yn neud iddo deimlo fel rhywbeth llawer mwy blasus na jest pasta pesto arferol.
Maes-eio ers 2002, yo.