Chilli gyda Chîg (neu Chilli Con Carne)
Dwi wedi bod yn coginio’r bwyd yma ers sawl blwyddyn a dyma’r rysait gore dwi wedi dod ar draws.
Cynhwysion:
2 bwys o gig eidion (briw-gig) A
2 (neu ragor) o ddarnau garlleg A
2 goes helogan (celery) wedi eu torri’n fan A
2 winwnsyn mawr wedi eu torri’n fan A
2 lwy fwrdd o bowdwr Chilli
½ llwy de o oregano sych
¼ llwy de o bubur cayenne
1 can 28 owns o domatos gyda’r sudd
1 tin 19 owns o ffa coch wedi eu golchi
2 lwy fwrdd o bowdwr Cocoa
1 llwy de o siwgr brown
4 clove
1 llwy de o finegr gwyn
½ llwy de o bubur du
1 pupur gwyrdd wedi ei dorri’n fan
Halen fel ydych yn ei hoffi
1. Rhowch cynhwysion A i fewn i sosban eitha mawr dros wres canolig hyd fod y cig wedi colli ei liw. Ychwanegwch y Chilli, oregano, cayenne a choginiwch am funud neu ddau yn ychwanegol.
2. Ychwanegwch y tomatos, ffa coch, cocoa, siwgr, cloves, finegr a’r pubur. Cymysgwch y cyfan yn dda.
3. Coginiwch hwn am awr a rhagor neu defnyddwich cogydd araf a’i goginio am 6 i 8 awr yn araf. Ychwanegwch y pubur gwyrdd tua 20 munud cyn y diwedd. Ychwanegwch yr halen gyda’r pubur gwyrdd.
ON Mae’r Mecsicaniaid yn dyfnyddio’r powdwr Cocoa…..hwn sydd yn gwneud y Chilli yma yn un arbennig o dda. Ambell waith byddaf yn rhoi madarch ynddo hefyd. Dwi wedi defnyddio halen helogan (celery salt) yn lle’r helogan ei hun. Bwytewch gyda reis ac efalli salad gwyrdd. Sglodion 'fyd!
Ydych chi'n gywbod am rysait Chilli da hefyd?