Chilli gyda Chîg

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Chilli gyda Chîg

Postiogan Nanog » Maw 03 Ebr 2007 4:25 pm

Chilli gyda Chîg (neu Chilli Con Carne)
Dwi wedi bod yn coginio’r bwyd yma ers sawl blwyddyn a dyma’r rysait gore dwi wedi dod ar draws.

Cynhwysion:

2 bwys o gig eidion (briw-gig) A
2 (neu ragor) o ddarnau garlleg A
2 goes helogan (celery) wedi eu torri’n fan A
2 winwnsyn mawr wedi eu torri’n fan A
2 lwy fwrdd o bowdwr Chilli
½ llwy de o oregano sych
¼ llwy de o bubur cayenne
1 can 28 owns o domatos gyda’r sudd
1 tin 19 owns o ffa coch wedi eu golchi
2 lwy fwrdd o bowdwr Cocoa
1 llwy de o siwgr brown
4 clove
1 llwy de o finegr gwyn
½ llwy de o bubur du
1 pupur gwyrdd wedi ei dorri’n fan
Halen fel ydych yn ei hoffi

1. Rhowch cynhwysion A i fewn i sosban eitha mawr dros wres canolig hyd fod y cig wedi colli ei liw. Ychwanegwch y Chilli, oregano, cayenne a choginiwch am funud neu ddau yn ychwanegol.
2. Ychwanegwch y tomatos, ffa coch, cocoa, siwgr, cloves, finegr a’r pubur. Cymysgwch y cyfan yn dda.
3. Coginiwch hwn am awr a rhagor neu defnyddwich cogydd araf a’i goginio am 6 i 8 awr yn araf. Ychwanegwch y pubur gwyrdd tua 20 munud cyn y diwedd. Ychwanegwch yr halen gyda’r pubur gwyrdd.

ON Mae’r Mecsicaniaid yn dyfnyddio’r powdwr Cocoa…..hwn sydd yn gwneud y Chilli yma yn un arbennig o dda. Ambell waith byddaf yn rhoi madarch ynddo hefyd. Dwi wedi defnyddio halen helogan (celery salt) yn lle’r helogan ei hun. Bwytewch gyda reis ac efalli salad gwyrdd. Sglodion 'fyd!

Ydych chi'n gywbod am rysait Chilli da hefyd?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan LoopyLooLoo » Maw 03 Ebr 2007 6:37 pm

Dw i'n licio defnyddio twrci mewn lle cig eidion, ffa 'black eye' a reis brown i greu ryw fath o chili iach iach am change weithia. Hefyd dw i wastad yn defnyddio cumin (wedi ei cryshio efo pestle n mortar i fod yn swper ffres :winc: ), tumeric a phupur cayenne. Dw i'n licio paratoi llwyth o parsley ffres i ddod ar y top efo caws CRYF IAWN....
'Yes, I was just eating some mousse.'
Rhithffurf defnyddiwr
LoopyLooLoo
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 576
Ymunwyd: Mer 25 Meh 2003 12:38 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Nanog » Maw 03 Ebr 2007 7:02 pm

Diolch Loopy. Mi wna i rhoi shot ar hwnna rhyw ddydd pan fyddaf eisie bwyta'n iach. Mae peslte a mortar yn swnio yn waith caled iawn i fi. Maen un 'da fi ond erbyn hyn, mae da fi beiriant ar gyfer malu ffa coffi. Mae'n ardderchog. Ac yn wir, dwi'n teimlo fod malu hadau ac ati jysd cyn taflu nhw i mewn i'r rysait yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r blas. :winc:
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai