Tudalen 1 o 1

Bwydlen ar thema Chwedlau / Mabinogi

PostioPostiwyd: Gwe 20 Ebr 2007 8:17 pm
gan LowRob
Byddaf yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth goginio cyn bo hir ar thema 'myths and legends'. Rwyf eisiau dilyn trywydd Breuddwyd Rhonabwy a'r Mabinogi. Pryd i ddau sydd ei angen a dyma beth sydd gennyf mewn golwg:
Cig moch (pork) gyda saws medd
Cacennau tatws a chennin pedr
Moron
Ffa (green beans)
Beth ydych chi'n meddwl? Unrhyw syniadau gwell?

Re: Bwydlen ar thema Chwedlau / Mabinogi

PostioPostiwyd: Gwe 20 Ebr 2007 8:27 pm
gan sian
LowRob a ddywedodd:Cacennau tatws a chennin pedr
....
Beth ydych chi'n meddwl? Unrhyw syniadau gwell?


Dibynnu a wyt ti eisiau gwenwyno'r gwesteion ai peidio.
Mae cennin Pedr yn wenwynig!

All parts of the daffodil plant are toxic and can be lethal - especially the bulb. If a dog or human eats or chews the bulbs, leaves or the flowers it can develop signs of poisoning, including:

Diarrhea
Vomiting
Staggering
Collapse
Unconsciousness
Coma
Death in a few hours

PostioPostiwyd: Gwe 20 Ebr 2007 9:08 pm
gan bartiddu
Gwenwynig? Duw Duw! Wedi byta sawl Cenin Pedr ar ol cwpwl o beints 'slawer dydd :ofn:

PostioPostiwyd: Sad 21 Ebr 2007 7:19 am
gan LowRob
Siwgr!!!! Cennin dwi'n meddwl nid cennin pedr :wps: !!

PostioPostiwyd: Sad 21 Ebr 2007 8:09 am
gan sian
O'n i'n gwbod go iawn.
Swnio'n neis iawn i mi. :D
Dw i ddim yn siwr a oedd 'na datws na moron na ffa yng Nghymru yn amser Rhonabwy, chwaith. :?

PostioPostiwyd: Sad 21 Ebr 2007 10:22 am
gan LowRob
Diolch yn fawr
Dyna dwi'n poeni am - pa lysiau (side dishes fel petai) byddai pobl yn bwyta adeg Rhonabwy?

PostioPostiwyd: Sad 21 Ebr 2007 10:43 am
gan sian
LowRob a ddywedodd:Diolch yn fawr
Dyna dwi'n poeni am - pa lysiau (side dishes fel petai) byddai pobl yn bwyta adeg Rhonabwy?


Treia Gwglo am "mediaeval feast/banquet/diet" - falle allet ti addasu rhywbeth o fan honno.

PostioPostiwyd: Llun 23 Ebr 2007 11:45 am
gan khmer hun
Oes raid i ti ffeindio'r union gynhwysion o'r oes o'r blaen? Anodd cwcio dim wedyn byse? Pam ddim creu prydau a chwarae ar enwau'r cymeriadau, ond ceisio cadw at ryw thema?

Mae'r Mabinogi'n cynnig pob math o syniadau - e.e. Ysbyddaden Bencawl a bara'r Anoddau; Olifau Olwen, caws coch Culhwch, bara ceirch Efnisien a grawnwin Arawn; Eog Llawn Lliw; carw Rhedynfre; cig moch Pryderi; blinis Blodeuwedd; Tapas y Twrch Trwyth; cwch Banana Bendigedig Bendigeidfran ac Amaretti Annwfn.

:wps: