Fe gafodd y lle 'ma ei agor yn ddiweddar yn y Bae, ar safle'r hen le Japaneiadd oedd yno. Mae'n rhyw fath o Le Gallois-lite (pobl Le Gallois sy'n rhedeg y lle) yn ôl yr adolygiad ddarllenes i yn Buzz, ond wy'n methu dod o hyd i unrhyw beth ar y we, heblaw am adolygiad o win y lle (ffafriol tu hwnt) gan foi o Dde Affrica.
Wy'n meddwl bwcio bwrdd ar gyfer fy mhenblwydd, felly oes 'na unrhyw un wedi bod 'na all dowlu ychydig o oleuni ar y mater?