Garcon! Brasserie

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Garcon! Brasserie

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 26 Ebr 2007 3:25 pm

Fe gafodd y lle 'ma ei agor yn ddiweddar yn y Bae, ar safle'r hen le Japaneiadd oedd yno. Mae'n rhyw fath o Le Gallois-lite (pobl Le Gallois sy'n rhedeg y lle) yn ôl yr adolygiad ddarllenes i yn Buzz, ond wy'n methu dod o hyd i unrhyw beth ar y we, heblaw am adolygiad o win y lle (ffafriol tu hwnt) gan foi o Dde Affrica.

Wy'n meddwl bwcio bwrdd ar gyfer fy mhenblwydd, felly oes 'na unrhyw un wedi bod 'na all dowlu ychydig o oleuni ar y mater?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Beti » Iau 26 Ebr 2007 3:44 pm

Dwi wedi bod ishe mydn i fan'ma fyd - mae o i fod yn neis iawn.
O'n i methu gweld dim byd ar y we chwaith (neis cael gwybod faint ti'n disgwyl ei wario!)
Wedyn nes i ffeindio hwn ar ryw adolygiad boi o'r Metro...
http://www.garcon-resto.co.uk/
Ond am siom - dim bwydlen, dim byd! Jyst gwefan sy'n neud i ti ishe mynd ar wylie! Os oes gen ti speakers wrth gwrs.
I futa fo!
Beti
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 706
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:47 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan rhosyn-rhwng-fy-nannadd » Iau 26 Ebr 2007 4:23 pm

Wedi bod am bryd o fwyd na'n ddiweddar fel 'treat' a mae'r bwyd yno yn anhygoel! Ddim wedi bod yn Le Gallois felly methu cymharu ond gesh i ceasar salad i ddechra odd yn delishys ac mae'r pysgod sy'n cael eu cynnig fel prif gwrs werth eu canmol. Ond da chin cael y gwasanaeth a'r bwyd da chi'n dalu am felly tydi prisia ddim yn rhad!
rhosyn-rhwng-fy-nannadd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Mer 15 Chw 2006 6:01 pm

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 26 Ebr 2007 4:26 pm

rhosyn-rhwng-fy-nannadd a ddywedodd:Wedi bod am bryd o fwyd na'n ddiweddar fel 'treat' a mae'r bwyd yno yn anhygoel! Ddim wedi bod yn Le Gallois felly methu cymharu ond gesh i ceasar salad i ddechra odd yn delishys ac mae'r pysgod sy'n cael eu cynnig fel prif gwrs werth eu canmol. Ond da chin cael y gwasanaeth a'r bwyd da chi'n dalu am felly tydi prisia ddim yn rhad!


Ffenciw, rh-rh-f-n. Bosib nad fi fydd yn talu gan mai 'mhenblwydd i yw e (croesi bysedd)! Sut oedd y diodydd? Mae'n elfen bwysig iawn!
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan rhosyn-rhwng-fy-nannadd » Iau 26 Ebr 2007 11:29 pm

Dim ond gwin gathoni a o be onin gofio odd potal tua £13-£15 ond swn in meddwl bod prisia diodydd yn debyg i unrhyw far arall ym Mermaid's Quay.
rhosyn-rhwng-fy-nannadd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Mer 15 Chw 2006 6:01 pm

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 15 Mai 2007 10:29 am

Waw. Hyfryd. Moules marinieres i ddechrau, oedd wedi'u coginio'n dda iawn. Cig oen gyda thato dauphinoises yn brif gwrs. Trueni eu bod nhw wedi gor-goginio'r cig ychydig bach, ond mae'n adlewyrchiad ar y ffordd mae pobl yn y wlad 'ma'n hoffi'u cig weden i. Creme brulee mafon oedd yn ysgafn ac yn flasus tu hwnt. Roedd y gwin yn arbennig o dda (dwy botel o Muscadet a photel o'r Syrah mwya' gwefreiddiol i fi ei gael erioed), a'r espresso ar y diwedd yn dra gwahanol i espresso arferol gewch chi yng Nghaerdydd (h.y. neis). Braidd yn gostus, ond nid fi dalodd. :D
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan sian » Maw 15 Mai 2007 10:38 am

Mm - tynnu d?r i'r dannedd - a wnaeth 'na neb yma sylwi dy fod ti'n cael dy ben-blwydd, naddo, ngwash i - a'r boi bethlem 'na'n cael y sylw i gyd.
Pen-blwydd hapus hwyr!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 15 Mai 2007 11:03 am

sian a ddywedodd:Mm - tynnu d?r i'r dannedd - a wnaeth 'na neb yma sylwi dy fod ti'n cael dy ben-blwydd, naddo, ngwash i - a'r boi bethlem 'na'n cael y sylw i gyd.
Pen-blwydd hapus hwyr!


Fi'n gwbod. Diawled i chi i gyd. :winc:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan penn bull » Maw 15 Mai 2007 11:07 am

Tua pa mor ddrud di'r bwyd?
My love she speaks like silence
Without ideals or violence
Rhithffurf defnyddiwr
penn bull
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 330
Ymunwyd: Llun 19 Rhag 2005 11:44 am
Lleoliad: newydd fynd mewn i dwnel (dim signal)

Postiogan Beti » Maw 15 Mai 2007 12:04 pm

Dau startar a dau prif gwrs a photel o win (y rhata!) am tua £65 - £70.
Neis ddo. Neis iawn...ac os tisho sblasio allan, cer i Ba Orient i gael mojito. mmm. Ond mae fan'na yn llawn posars - fyddi di'n gartrefol iawn Penn Bull!! :winc: Jowciow!
I futa fo!
Beti
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 706
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:47 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron