Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Llun 30 Ebr 2007 10:49 am
gan Llefenni
Meatballs Swedeg (Hawlfraint: Fy Mrawd, Rhyds)

Cymysga:
Y Mins
Pedair neu bump tafell o fara gwyn heb y crwst
Hanner carton canolig i hufen dwbl (:D)
halen a phupr

Yn dda uffernol, rholia nhw a ffria nhw = swedeg a neis.

Serfia efo Jam o Ikea neu wbeth Swedeg arall / sbaghetti / wejus tatws a Bisto.

Iam iam!!

PostioPostiwyd: Llun 30 Ebr 2007 1:22 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Mae 'na wefan, lle ti'n ticio bocsys yn ôl y cynhwysion s'gen ti, ti'n clicio botwm, a ti'n cael tudalen yn llawn o wahanol rysetiau ti'n gallu eu gwneud efo'r cynhwysion hynny. Mi fysa'n eitha handi, o dan yr amgylchiadau.

Dwi'di methu ffeindio'r wefan...unrhywun arall yn ei hadnabod/defnyddio?