Pwy di'r siopwrs bwyd gorau?

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pwy di'r siopwrs bwyd gorau?

Merched
7
64%
Dynion
4
36%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 11

Pwy di'r siopwrs bwyd gorau?

Postiogan Mali » Gwe 04 Mai 2007 11:43 pm

Wedi darllen yn ddiweddar fod dynion yn gwneud y siopwrs bwyd gorau. A'r rheswm ....wel gan eu bod yn fyw tebygol o brynu yn union be sydd ar y rhestr !
Oce , dwi'n cyfaddef , mi fyddai'n dod adref efo lot mwy na be sydd ar fy rhestr siopa :wps: , ond dwi'n dal i feddwl mai merched sydd yn gwneud y siopwrs gorau gan eu bod yn gwybod mwy am be di be a pha fargeinion i fynd amdanynt. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Pwy di'r siopwrs bwyd gorau?

Postiogan Clebryn » Gwe 04 Mai 2007 11:44 pm

Mali a ddywedodd:Wedi darllen yn ddiweddar fod dynion yn gwneud y siopwrs bwyd gorau. A'r rheswm ....wel gan eu bod yn fyw tebygol o brynu yn union be sydd ar y rhestr !
Oce , dwi'n cyfaddef , mi fyddai'n dod adref efo lot mwy na be sydd ar fy rhestr siopa :wps: , ond dwi'n dal i feddwl mai merched sydd yn gwneud y siopwrs gorau gan eu bod yn gwybod mwy am be di be a pha fargeinion i fynd amdanynt. :)



Dynion wth reswm Mali!

Mae gan ferched wendid am siopa ac yn debygol o wario'n wirion ar bethan nad sydd ei hangen arnyn nhw.

Does gan ddynion fawr o amynedd i siopa, ac o ganlyniad, yn sticio iw briff siopa!
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Re: Pwy di'r siopwrs bwyd gorau?

Postiogan Mali » Gwe 04 Mai 2007 11:51 pm

Clebryn a ddywedodd:

Dynion wth reswm Mali!

Mae gan ferched wendid am siopa ac yn debygol o wario'n wirion ar bethan nad sydd ei hangen arnyn nhw.

Does gan ddynion fawr o amynedd i siopa, ac o ganlyniad, yn sticio iw briff siopa!


:lol: Yn union beth fasa ngwr i'n ddweud !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Dili Minllyn » Sad 05 Mai 2007 7:23 am

O ran prynu bwyd, dwi'n meddwl bod merched yn siopa'n fwy call - mae dynion yn tueddu i brynu beth bynnag sy'n ennyn eu ffansi. Danfonwch ddyn mas am dorth o fara a pheint o laeth, ac mi ddaw e adre â theisen lemwn, potelaid o win, a rhywbeth anferth wedi'i rewi.

O ran prynu dillad, dynion sydd orau - syth i mewn i'r siop gyntaf, dewis crys (neu beth bynnag), ac adre.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan nicdafis » Sad 05 Mai 2007 8:39 am

Dili Minllyn a ddywedodd:Danfonwch ddyn mas am dorth o fara a pheint o laeth, ac mi ddaw e adre â theisen lemwn, potelaid o win, a rhywbeth anferth wedi'i rewi.


Ti'n dweud hynny fel ei fod yn beth drwg. Swnio fel noson mewn wych i fi.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Chwadan » Sad 05 Mai 2007 2:18 pm

Dwi lot gwell na fy nghariad am siopa bwyd. Felly mae merched yn well na dynion am siopa bwyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Mali » Sad 05 Mai 2007 7:40 pm

Hmmm, ella fod pethau'n newid ychydig , ond o be dwi'n gofio, ista'n car 'roedd lot o ddynion adref tra 'roedd y wraig yn gwneud y siopa. Dwi di gweld hyn yma hefyd gyda llaw! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Mali » Sad 05 Mai 2007 7:44 pm

nicdafis a ddywedodd:
Dili Minllyn a ddywedodd:Danfonwch ddyn mas am dorth o fara a pheint o laeth, ac mi ddaw e adre â theisen lemwn, potelaid o win, a rhywbeth anferth wedi'i rewi.


Ti'n dweud hynny fel ei fod yn beth drwg. Swnio fel noson mewn wych i fi.


Ella wir Nic . Ond beth am frecwast y diwrnod wedyn ,a ffeindio nad oes gen ti lefrith i roi ar dy corn flakes ? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Wierdo » Sad 05 Mai 2007 7:49 pm

Dwi lot gwell na'ng nghariad yn siopa. Mi allai feddwl ymlaen am be dwisho am yr wthnos aa aros i fy budget. Ond ma'ng nghariad yn mynd i siopa am chydig o ddyddia yn unig ac yn prynu be bynnag syn tynnu ei ffansi ac yn goro mynd nol yn aml wedi anghofio rwbath! Felly, oherwydd hyn dwi fel chwadan ac yn mynd i ddweud fod Genod yn well na hogia! (yn siopa dwin feddwl yn yr achos yma wrth sgwrs!)
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan KJ » Sad 05 Mai 2007 8:15 pm

Mi fydda ni o hyd yn mynd i'r siop efo rhestr ond fel arfer mae'r ddau ohonom yn rhoi ychydig o extras yn y drol. ( mae troliau siopa yn Awstralia yn llawn mor ddrwg a rhai adra, digon hawdd gneud niwed i'ch cefn tra'n gwthio'r diawlad.)
Ond mi faswn i'n deud mod i'n well na'r musus am neud y siopa achos fyddai ddim yn gwastraffu amsar yn darllen labeli. Home Brand o hyd......
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron