gan Cacamwri » Gwe 29 Meh 2007 8:50 pm
Wnes i wneud hyn am y tro cynta wythnos diwetha. Di cael llond bol ar deithio hanner awr i Tesco, yna stryglo o gwmpas gyda babi a troli sydd a meddwl ei hunan! Roedd e'n gyfleus iawn i weud y gwir. Daeth pob dim mewn un darn, ac ar amser. Roedd e'n rhywbeth fel £3.99 am ddod a'r siopa i'n ty ni, sy'n ok tydi? Ond rhaid i fi ddweud, fe wnes i wario mwy ar y siopa na be fyswn i fel arfer yn neus achos oedd o'n rhywbeth newydd!
Ond o leia mae'r cypyrddau a'r rhewgell yn llawn nawr...
Yn bendant, dw i am wneud hyn eto. Safio lot o hasl siopa bwyd. Fi'n casau neud e!
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."