Risotto myshrwms hefo llwyth o barmesan newydd ei gratio
Ar gyfer pob person:
Llwy bwdin o fenyn
'Chydig o olew olewydd
1/2 nionyn mawr wedi ei falu'n fan
'Chydig o fyshrwms wedi sleisio -
chestnut yn neis
Llond dwrn o reis
arborio
1/4 gwydriad o win gwyn
Tua 300ml o stoc llysiau cynnes (e.e.
bouillon ) - ddim yn rhy gry ond ddim yn rhy wan
1/4 llwy de o berlysiau wedi sychu (e.e.
herbes de provence)
1/4 llwy de o bupur du wedi malu
Digon o barmesan newydd ei gratio
Poethi'r menyn a'r olew mewn sosban fawr drom a dechrau ffrio'r nionod a'r myshrwms am rhyw funud neu ddwy.
Ychwanegu'r reis a chario 'mlaen i ffrio am ddau neu dri munud gan ei droi trwy'r amser hefo llwy bren.
Tywallt y gwin i fewn gan gadw'r sosban ar y tan a'i droi hefo'r llwy bren am rhyw funud hyd nes bod y reis wedi ei amsugno ac ymylon y sosban wedi ei llnau'n lan.
Troi'r gwres i lawr fymryn ac ychwanegu ychydig bach o'r stoc gan ei droi trwy'r amser hyd nes iddo gael ei amsugno gan y reis. Parhau i ychwanegu'r stoc fesul tipyn fel hyn. Gallwch ychwanegu'r perlysiau a'r pupur du unrhywbryd yn ystod y cam yma. Os ydi'r gymysgedd yn rhy drwchus, ychwanegwch ychydig o ddwr berwedig o'r tecell i'w deneuo.
(Tip - Os ydych angen paratoi'r risotto o flaen llaw gallwch gadw tua chwarter y stoc dros ben, tynnu'r sosban oddi ar y tan a rhoi caead arno fo. Gallwch orffen ei goginio hefo gweddill y stoc ychydig funudau cyn ei fwyta.)
Tynnwch y sosban oddi ar y tan a chymysgwch y parmesan i fewn tra ei fod dal yn gynnes a bwytwch yn syth. Neis.