Dad-rhewi bwyd

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dad-rhewi bwyd

Postiogan Cacamwri » Sul 24 Meh 2007 6:14 pm

Dadl rhwng fi a Fo. Prun di'r ffordd gorau i ddad-rewi (ai dyna'r gair?!) bwyd ar gyfer swper heno - ei gadael o allan ar fwrdd y gegin, neu dad-rewi o yn yr oergell?
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan huwwaters » Sul 24 Meh 2007 8:40 pm

Oergell.

Os ti'n trio dadmer pethe'n rhy gyflym, am un ti'n colli'r blas a'r ail yw fod bacteria yn gallu magu mewn awyrgylch 'twym' o ryw fath. Gwell ei ddadmer yn yr oergell.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Mihangel Macintosh » Sul 24 Meh 2007 10:40 pm

Wedodd Dad i beidio mynd yn infolfed gyda domestics
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan SbecsPeledrX » Mer 27 Meh 2007 10:20 pm

huwwaters a ddywedodd:Oergell.

Os ti'n trio dadmer pethe'n rhy gyflym, am un ti'n colli'r blas a'r ail yw fod bacteria yn gallu magu mewn awyrgylch 'twym' o ryw fath. Gwell ei ddadmer yn yr oergell.


ffanciw ffellow geeky scientist.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Cacamwri » Gwe 29 Meh 2007 8:45 pm

cough :winc:
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Sul 01 Gor 2007 10:27 pm

Ar ford y gegin. Dyw rhoi pethau sy'n boethach/oerach na thymheredd yr oergell ddim yn dda i'r peth.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Mr Gasyth » Llun 02 Gor 2007 9:11 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ar ford y gegin. Dyw rhoi pethau sy'n boethach/oerach na thymheredd yr oergell ddim yn dda i'r peth.


Aha, felly dyma pam na ddylid rhoi pethau poeth yn yr oergell? A finnau'n meddwl mai peryf i'r ddesgyl chwalu oedd. Sut ddrwg mae'n wneud felly, a pham?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Swnen » Llun 02 Gor 2007 10:49 am

Aha, felly dyma pam na ddylid rhoi pethau poeth yn yr oergell? A finnau'n meddwl mai peryf i'r ddesgyl chwalu oedd. Sut ddrwg mae'n wneud felly, a pham?


Ma rhoi rhywbeth poeth i mewn yn codi tymheredd yr oergell - peryg o fagu bacteria'n uwch a ballu, a mae'r oergell yn goro stryglo i dynnu'r tymheredd i lawr - dwi'n meddwl!

Prun di'r ffordd gorau i ddad-rewi (ai dyna'r gair?!) bwyd ar gyfer swper heno - ei gadael o allan ar fwrdd y gegin, neu dad-rewi o yn yr oergell?


Dwi hefo ti fan hyn cacamwnci - allan tan mae o wedi dadmer yn iawn - os wyt ti hyd lle am wn i y dyle fo fynd i mewn i'r oergell unwaith mae o wedi dadmer.
Swnen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 29
Ymunwyd: Gwe 27 Ion 2006 9:57 pm
Lleoliad: Adre yn ty ni

Postiogan Cacamwri » Llun 02 Gor 2007 12:28 pm

Wel, os dwi'n drefnus, ac yn gwbod ein bod ni'n mynd i gael cyw iar i swper nos fory, sen i'n ei dynnu o'r rhewgell heno, a'i roi yn yr oergell dros nos i'w ddadmer. Ond dwi byth fela, so os den ni eisie cyw iar heno i swper, dwi wastad yn ei adael allan er mwyn ei ddadmer yn gynt. Do'n i ddim yn gweld dim byd yn bod ar hyn, achos dw i wastad wedi gwneud hyn...tan i Mr Sbecs dweud y drefn wrtha i. :winc:
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan Swnen » Llun 02 Gor 2007 2:29 pm

Ond dwi byth fela, so os den ni eisie cyw iar heno i swper, dwi wastad yn ei adael allan er mwyn ei ddadmer yn gynt.


Snap :!:

Tydwi heb ladd neb ... eto :? :wps:
Swnen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 29
Ymunwyd: Gwe 27 Ion 2006 9:57 pm
Lleoliad: Adre yn ty ni


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron