Helo cyd-faeswyr,
Yn ddiweddar yr wyf wedi bod wrthi yn trio dysgu mwy am coginio hefo chick-peas a ffacbys puy ac ati ac wedi ddarganfod ei bod hi hefyd yn peth iach i fyta rhain wedi ei egino (sprouted/ germinated). Mae hi'n bosib brynnu nhw fel hyn yn barod mewn pacedi o siopau sy'n gwerthu bwyd llysieuwyr/ aml-wlad, ond yna cefais wybod wi bod yn bosib egino adre hefo ffacys ac eti sy gennych yn y cwpwrdd pryd bynnag liciwch chi.
Yr wyf wedi prynnu twr egino ac rwyf wrth fy modd - fel tyfu cress yn yr ysgol ers stalwm.
Oes unrhywun arall yn fama yn egino adre neu yn byta hadau ac ati sy wedi ei egino?