Syniadau am bwdin i 30.

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Syniadau am bwdin i 30.

Postiogan Mali » Maw 31 Gor 2007 3:48 pm

Mae pobl drws nesaf yn cael barbeciw eto , ac yn lle gwneud salad pasta [ sydd yn handi a rhesymol] , fi sydd 'di cael y job o wneud pwdin y tro yma.
Sgin rywun syniadau am bwdin sydyn a rhesymol i 30 o fobol? 'Roeddwn yn meddwl am ddefnyddio ffrwythau ......
Diolch!
8)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan khmer hun » Maw 31 Gor 2007 3:55 pm

Anferth! o grymbl riwbob neu fwyar duon, gyda bach o cinnamon a cheirch mewn da'r crymbl. dim byd neisach. a thwba mowr o hufen ia.

Oes na riwbob yng Nghanada?
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Cacamwri » Maw 31 Gor 2007 3:55 pm

Beth am wneud y Pwdin Ha Ha Ha mae Jeni Wine wedi nodi yn yr edefyn am bwdins? (viewtopic.php?t=13451)
Hawdd i'w wneud, a jyst rhannu fe i 30 o bobol.
Ma cheescake yn reit hawdd i'w wneud fyd...
Pob lwc - sen i'm yn licio neud pwdin i 30! Sen i jyst yn rhedeg i Marks and Spencers, a thalu trwy 'nhrwyn am bwdinau unigol swanc...a difaru gwario cymaint!
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan tafod_bach » Maw 31 Gor 2007 4:06 pm

pwdin bara haf yn syniad da iawn - gellir ei baratoi noson cynt - in fact mae'n fwy blasus fel'na -neu eton mess! wwww! jyst pryna pavlova siop a'i ollwng o ar lawr -> voila!

beth am glamp o dreiffl? mae'n rhad iawn i'w wneud ac yn ddigon boozy.
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan Mali » Maw 31 Gor 2007 5:03 pm

khmer hun a ddywedodd:Anferth! o grymbl riwbob neu fwyar duon, gyda bach o cinnamon a cheirch mewn da'r crymbl. dim byd neisach. a thwba mowr o hufen ia.

Oes na riwbob yng Nghanada?


Oes ...yn digwydd bod , mae gen i beth yn tyfu yn yr ardd . Diolch am y syniad . Mae'n swnio'n flasus iawn ! :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Mali » Maw 31 Gor 2007 5:08 pm

Cacamwri a ddywedodd:Beth am wneud y Pwdin Ha Ha Ha mae Jeni Wine wedi nodi yn yr edefyn am bwdins? (viewtopic.php?t=13451)
Hawdd i'w wneud, a jyst rhannu fe i 30 o bobol.
Ma cheescake yn reit hawdd i'w wneud fyd...
Pob lwc - sen i'm yn licio neud pwdin i 30! Sen i jyst yn rhedeg i Marks and Spencers, a thalu trwy 'nhrwyn am bwdinau unigol swanc...a difaru gwario cymaint!


Dyna be wnês i feddwl wneud tan i mi weld y prisiau ...ddim yn M&S ond yn M&M. :)
Gai olwg ar y pwdin ha ha ar ôl gwaith...swnio'n hwyl!
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Mali » Maw 31 Gor 2007 5:10 pm

tafod_bach a ddywedodd:
beth am glamp o dreiffl? mae'n rhad iawn i'w wneud ac yn ddigon boozy.


Neis :lol:
Ond ella fyddan nhw 'di cael digon i yfed erbyn hynny ! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan khmer hun » Mer 01 Awst 2007 10:19 am

khmer hun a ddywedodd:Anferth! o grymbl riwbob


A dyma rysáit delfrydol. Do'n i ddim yn gwbod y syniad o sinamon a cheirch yn 'swyddogol' - eitha' prowd o'n dyfeisgarwch! Mae e'n hawdd hawdd; allet ti neud ryw 4 plated a digon dros ben.


Mmm. Crymbl riwbob.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 01 Awst 2007 10:42 am

Caribînanas

Gan y bydd ganddyn nhw farbeciw ar y go, be am fananas mewn rym a siwgr brown ar y bbq?

Tua 40 banana, torra nhw'n hanner lawr y canol, rho chydig fenyn a siwgr brown yn y canol fel brechdan, rhoi joch go dda o rym rhad arnyn nhw, lapio nhw'n barsal tynn fesul 4 mewn ffoil i neud yn siwr nad oes dim o'r sudd hyfryd yn dianc. Hop! Ar y bbq. 5-10 munud. Gweini gyda hufen ia fanila.

Biwtiffyl. Os am amrywiaeth galli wneud ei hanner o efo pinafal ffresh yn ogystal.

Dim paratoi, nofelti faliw, blasus a drwg.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Ray Diota » Mer 01 Awst 2007 10:50 am

Cacamwri a ddywedodd:Ma cheescake yn reit hawdd i'w wneud fyd...


ffacinhel nadi ddim! be ffac chi fod i neud 'da'r gellatine sheets 'na?? abort!

salad ffrwythau - job done
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron