gan Rhodri Nwdls » Mer 01 Awst 2007 10:42 am
Caribînanas
Gan y bydd ganddyn nhw farbeciw ar y go, be am fananas mewn rym a siwgr brown ar y bbq?
Tua 40 banana, torra nhw'n hanner lawr y canol, rho chydig fenyn a siwgr brown yn y canol fel brechdan, rhoi joch go dda o rym rhad arnyn nhw, lapio nhw'n barsal tynn fesul 4 mewn ffoil i neud yn siwr nad oes dim o'r sudd hyfryd yn dianc. Hop! Ar y bbq. 5-10 munud. Gweini gyda hufen ia fanila.
Biwtiffyl. Os am amrywiaeth galli wneud ei hanner o efo pinafal ffresh yn ogystal.
Dim paratoi, nofelti faliw, blasus a drwg.
Maes-eio ers 2002, yo.