Postiwyd: Mer 01 Awst 2007 11:34 am
Sna'm angen gelatine bob tro sti Ray. Fi wastad yn neud cheesecake sydd ddim angen ei gwcan twel, dim ond ei adael i oeri yn y ffrij. Hawdd ychan.
S.W. a ddywedodd:30 iogwrt - Llaeth y Llan bydde orau ond dwin amau eu bod wedi dechre allforio i Ganada eto.
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Caribînanas
Gan y bydd ganddyn nhw farbeciw ar y go, be am fananas mewn rym a siwgr brown ar y bbq?
Tua 40 banana, torra nhw'n hanner lawr y canol, rho chydig fenyn a siwgr brown yn y canol fel brechdan, rhoi joch go dda o rym rhad arnyn nhw, lapio nhw'n barsal tynn fesul 4 mewn ffoil i neud yn siwr nad oes dim o'r sudd hyfryd yn dianc. Hop! Ar y bbq. 5-10 munud. Gweini gyda hufen ia fanila.
Biwtiffyl. Os am amrywiaeth galli wneud ei hanner o efo pinafal ffresh yn ogystal.
Dim paratoi, nofelti faliw, blasus a drwg.
Ray Diota a ddywedodd:
salad ffrwythau - job done
Cacamwri a ddywedodd:Be wnes di yn y diwedd te Mali?