Mathau o de

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mathau o de

Postiogan Geraint » Llun 20 Awst 2007 12:06 pm

Pa fathau o dê da chi'n hoff o? Hynny yw, rhai gwahanol i'r tê 'bog standard' (er dwi dal yn yfed galwyni o hwna yn gwaith).

English breakfast, Darjeeling a Chai i mi ar hyn o bryd.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Cacamwri » Llun 20 Awst 2007 12:20 pm

Te gwyrdd i mi, dail go iawn.
Arogl darjeeling yn ddigon i mi - afiach!
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan Mr Gasyth » Llun 20 Awst 2007 12:22 pm

Dwi'n licio Lady Grey de
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan SerenSiwenna » Llun 20 Awst 2007 12:30 pm

Cacamwri a ddywedodd:Te gwyrdd i mi, dail go iawn.


Eiliaf. Gunpowder green tea ac mae fe'n rhydd. Mae gen i sieve bach sy'n fitio ar dop y cwpan a chi wedyn jest yn rhoi'r dwr poeth drosto a gadael iddo brewio 'chydig cyn cymryd y sieve i ffwrdd ac voila!

Ers stalwm mi roedd gen i mug a ddaeth hefo'r sieve a top ceramic i rhoid ar dop y sieve, un gwyrdd tywyll a sgrifen sieinis arno, oedd o'n gret ond rwy'n credu bod rhywun wedi ei dyged o pan o ni yn byw mewn hostel :crio: Wedi trio a methu cael hyd i un newydd - unrhywun yn gwybod lle gai un?

Os am de arferol, mae gen i English Breakfast tea yma yn dror ger y desk (yn yr offis) ond mae assam yn reit neis hefyd :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Sili » Llun 20 Awst 2007 1:54 pm

Och, dwi wrth fy modd efo te gwahanol! Yn y ty 'cw, ma genai gwpwrdd cyfan wedi ei aberthu jest i gadw pacedi te a coffi gan mod i'n dueddol o brynu math gwahanol bob tro dwi'n mynd tua'r siopa :wps:

Y ffefrynna' ydi Lady Grey (yn rhydd o debot, th'gwrs) ac Earl Grey, Darjeeling a te gwyrdd (yn enwedig os oes gen hwnnw flas ffrwyth idda fo). Ma'r rhai herbal wastad yn mynd lawr yn dda 'fyd a dwi di magu blas yn ddiweddar am de gwyn.

Dos na'm byd yn curo panad dda o PG chwaith...
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 20 Awst 2007 2:09 pm

Y ffefryn - Rooibos* - melys, dim caffeine, gweithio efo llaeth. Rhydd, wrth gwrs.
Hefyd yn hoff iawn o Earl Grey Blue Lady
Jasmine yn neis hefyd ond ma'n hawdd iawn ei or-fwydo a'i droi'n chwerw.

Ond diawl, dwi'n eitha lecio jest panad o de tramp o tîbag normal 'fyd.

Sa rywun yma'n yfad Maté? Ma'n fwy o de na dim byd arall tydi? Mi gymrai beth weithia yn lle coffi. Lyfli jybli.

[* Newydd ffeindio allan fod posib cael Espresso Rooibos!! Cymysgedd perffaith o fy hoff de, a'n hoff ffurf o goffi. Reit, ma Mecca'n gorfod cael peth o hwn mewn i fi.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Sili » Llun 20 Awst 2007 3:47 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Y ffefryn - Rooibos* - melys, dim caffeine, gweithio efo llaeth. Rhydd, wrth gwrs.


Hmm... mi dries i chydig o hwn yn ddiweddar efo llefrith. Blas creision 'smokey bacon' rhyfadd oni'n weld arna fo. Fethis i orffen y baned gyfa' ma raid cyfaddef, ond bosib mod i wedi gneud y baned yn rhy gryf. D'aim i brynu mwy ohona fo beth bynnag...
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan jiw jiw! » Llun 20 Awst 2007 4:11 pm

Ma sawl un 'da finne 'fyd, ond braidd byth yn yfed unrhyw beth heblaw Chmaomile - mmm.
Ma nettle yn drewi ond yn eitha blasus wir a the arferol blas coconyt a fanila yn neis am tshenj o de cyffredin.
Fi hyd yn oed wedi dechre yfed dwr twym ar ei ben ei hunan! Diogi siwr o fod, a hyd yn oed os 'ych chi'n anghofio amdano mae e'n iawn yn oer!
Hwntw o gartre sy'n gwrthod troi'n Gog!
jiw jiw!
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Gwe 11 Chw 2005 9:19 am
Lleoliad: Bangor/Eglwyswrw

Postiogan Manon » Llun 20 Awst 2007 7:43 pm

earl grey, a peppermint pan 'dwi'n teimlo'n doji. Rhaid i banad fod yn gry iawn i mi, wedi sdiwio bron, a mymryn lleia o laeth.
'Dwi 'di trio 'ngorau i licio te ffrwyth ond myn dian i, mae o'n blasu 'tha'r sinc ar ol golchi llestri :?
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan jiw jiw! » Maw 21 Awst 2007 12:38 pm

Manon a ddywedodd:'Dwi 'di trio 'ngorau i licio te ffrwyth ond myn dian i, mae o'n blasu 'tha'r sinc ar ol golchi llestri :?


Fi'n cytuno, ma lot ohonyn nhw'n drewi'n neis iawn ond yn blasu o ddim byd ar y gore!
Hwntw o gartre sy'n gwrthod troi'n Gog!
jiw jiw!
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Gwe 11 Chw 2005 9:19 am
Lleoliad: Bangor/Eglwyswrw

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron