Cwrw Cymreig?

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cwrw Cymreig?

Postiogan Gwenci Ddrwg » Gwe 21 Medi 2007 1:20 am

Sori os dwi'n ymddangos yn dwl, ond dwi wedi clywed am gwrw Cymreig a dwi wedi dsygu ei bod o'n "dyfriog" iawn. Pan ro'n i'n ymweld â Chymru, ca i ddim ond cwrw Saeson (dydy fy nhad ddim yn hoffi barnu bethau newydd a roedd o'n dalu popeth) felly dwi ddim yn gwybod os ydy hynny'n y gwir.

Os oes gynnoch chi awgrymau, dwi ddim yn mynd i allu eu yfed nhw (yn anffodus). Dwi'n pell iawn o Gymru. Ond hoffwn i wybod os oes 'na cwrw da fodd bynnag.

Diolch!
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Postiogan Llefenni » Gwe 21 Medi 2007 10:01 am

Dwi ddim yn gwybod be di barn pawb arall, ond dwi methu cael digon o Brains Bitter, byddef yn extra cold smooth neu'n SA (Skull Attack :winc: )

"Real Ales" Bragdu Tomos Watkin (falle yn rhan o brains erbyn hyn?)

Dwi DDIM OND yn yfed cwrw Cymreig (cwrw as in beer, nid lager cofiwch!)
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan sian » Gwe 21 Medi 2007 10:21 am

roedd gan Brains gwrw blasus iawn o'r enw "Cwrw'r Awen" yn y Steddfod eleni.

Mae 'na fragdy bach yn ardal Llanarth o'r enw Penlon Cottage Brewery - ag enwau difyr i'w wneud â defaid ar eu cwrw Ewe's Frolic a Tipsy Tup - dw i ddim wedi treio'u stwff nhw - dim gair o Gymraeg i'w weld ar eu stwff nhw
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Rhys » Gwe 21 Medi 2007 10:45 am

Mae yna llawer o fragdai mawr a bach yng Nghymru (dyma restr o 22 ohonynt). Mae nhw'n cynhyrchu 'bitter', ond mae hefyd un neu ddau yn cynhyrchu 'lager', sef

'45' gan Brains
Lager Bragdy Rhymni
'Lagyr[sic]' gan Tomos Watkin
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Llefenni » Gwe 21 Medi 2007 10:53 am

Falle alli di gael cwrw yn yr UDA!

Stori ar IC Wales
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Jaff-Bach » Gwe 21 Medi 2007 11:33 am

toffoc rywun? :)
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

Postiogan Geraint » Gwe 21 Medi 2007 12:05 pm

Y gorau dwi di yfed ydi cwrw Penlon, o Lanarth, Ceredigion, sydd ar ol decantio o'r botel mor dda a pheint o'r tap, ac yn hollol flasus. Fel dwedodd Lyn Ebenezer ar rhaglen Blas ar Radio Cymru, fasw ni'n defnyddio hwn yn radiator y car ac i olchi fy nanedd!

Cwrw Conwy hefyd yn arddechog.

Sori os dwi'n ymddangos yn dwl, ond dwi wedi clywed am gwrw Cymreig a dwi wedi dsygu ei bod o'n "dyfriog" iawn


Dwi ddim yn siwr be ma hyn yn olygu, (dyfriog= mwy golau? gwanach?)ond efallai ei fod yn cyfeirio at chwerw y gorffennol a oedd ar y cyfan yn wanach na chwrw heddiw, yn enwedig yn ardaloedd diwydiannol lle roedd pobl yn ei yfed nid ond i feddwi ond i dorri syched.

Hefyd, yn ol wikipedia mae cwrw Cymru, Cernyw, Gogledd Lloegr ac y Alban yn draddodiadol yn felys, ac yn llai hoppy.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 22 Medi 2007 2:37 am

Dwi ddim yn siwr be ma hyn yn olygu, (dyfriog= mwy golau? gwanach?)ond efallai ei fod yn cyfeirio at chwerw y gorffennol a oedd ar y cyfan yn wanach na chwrw heddiw, yn enwedig yn ardaloedd diwydiannol lle roedd pobl yn ei yfed nid ond i feddwi ond i dorri syched.

Dwi'n gwybod hynny, dwi'n astudio hanes yr oesoedd canol ym mhrifysgol. Ond roedd rhywun wedi dweud i mi fod hynny'n gael ei gwneud yng Nghymru rwan hefyd. Mae'r bwnc 'ma wedi ladd y feddwl 'na.

A sori am fy Nghymraeg, dwi'n gallu bod yn anodd i ddeall ambell waith!
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Postiogan 7ennyn » Sad 22 Medi 2007 1:19 pm

Mi gafodd diwygiad mawr ddechrau'r ganrif diwethaf effaith mawr ar ddiwydiant bragu cynhenid Cymru - ac roedd yn gyfrifol yn uniongyrchol am gau dwsinau o fragdai bychain ar hyd a lled y wlad. Mae yna rhyw fath o adfywiad wedi bod dros yr ugain mlynedd diwethaf ac mae yna amryw o fragdai bychain yn cynhyrchu cwrw go iawn amrywiol a diddorol erbyn heddiw.
Geraint a ddywedodd:Cwrw Conwy hefyd yn arddechog.

Eiliaf, ac mae'r Co-op ym Mhen-y-groes wedi dechrau stocio poteli. Mae eu Cwrw Mel jyst yn rhy flasus :winc: .
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan GringoOrinjo » Sad 22 Medi 2007 2:42 pm

Mi oedd Cwrw Carreg yn ofnadwy o dda, ond dio'm i'w weld yn nunlla mwyach.
Rhithffurf defnyddiwr
GringoOrinjo
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 520
Ymunwyd: Gwe 16 Ebr 2004 9:48 pm


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron