Rwy'n hoff iawn o fwyd Thai ond does dim llawer ohonynt i'w cael yng Nhyrmu.
Ydy chi wedi bod mewn bwyty Thai yn eich ardal chi? Beth oedd eich profidad? Dyma'r ddau dwi wedi ymweld a hwy hyd yma yng Nghymru:
Ty Thai, Aberaeron. Rwy'n credu ei fod wedi symud i Gei Newydd erbyn hyn. Mi roedd y bwyd yn hyfryd ond braidd yn gyfyngedig o rhan dewis gwahanol brydoedd.
Bahn Mai Thai, 19 Sation Rd., Llanelli. Pobl Thai sydd yn berchen ar hwn ac yn coginio yno. Ystod eagn iawn o wahanol brydoedd. Mi ges i salad Thai sef Som Tam hyfryd yno. Ond roeddwn i braidd yn siomedig gyda'r prif gwrs sef Pla Sam Rad - roedd yn debyg i penfras mewn batter i mi gyda winwns a sbeisys ar ei ben. Roedd pryd fy nghyfaill yn well.....sef y traddodiadol Cyri Gwyrdd. Awyrgylch Thai iawn 'ma.
Orchid, Aberystwyth: Wel bywty 'Oriental' yw hwn gyda rhai prydoedd Thai, Siapaneaidd, Chineaidd. Hoffais y Cyri Gwyrdd cefais i'n fawr iawn a'r ffowlyn satay. Rwy'n credu taw gwr o Hong Kong yw'r cogydd.
Oes bwyty Thai yn eich ardal chi? Beth mae e fel....yn enwedig y bwyd wrth gwrs? Beth gawsoch chi i fwyta? Neu a ydy chi wedi bod i'r rhai uchod neu hyd yn oed 'take-away'? Diolch.