Ma'r annwyl fam yn hoff o Cianti fach nawr ac yn y man, odi wir, ( peidiwch gweud wrth y deiaconied!)
Wyf wrthi fan hyn ar amazon yn chwilio "Seliwr botel" fel anrheg nadoligaidd, ac yn meddwl chwilio am corcsgrew da hefyd.
Ond mae yna gymaint o ddewis, mae ganddi y teip ystradebol sy angen bon braich go lew i agor botel, ond oes rhai ohonoch chwi pendefigion y gwinoedd wedi darganfod teclyn bach hawdd ei ymdrech i gyflawni'r weithred? Oes 'na wefannau da allan yna? Diolch mun