Oes rhywrai eraill wedi trïo Lolfa Jwno, y dafarn newydd ar Wellfield Road yn yRhath?
Er bod y cyfan dipyn bach yn rhy ymwybodol o cŵl i fi (dim creision ar gael, er enghraifft – dim ond cnau pistasio ac olifau) roedd bwlch amlwg yn y farchnad ar gyfer lle o’r fath yn y fro. Mae’r prisiau’n rhesymol ac mae croeso i blant (efallai na fyddai hynny’n fantais yn nhyb rhai), ac mae detholiad eithaf da o gwrw a seidr o Gymru a’r cyffiniau.