Tudalen 1 o 1

Eswatini - bwyd masnach deg o Wlad Swazi

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2008 5:33 pm
gan Dili Minllyn
Dwi newydd ddechrau ar botaid o saws Swazi Fire ges i o'r siop fasnach deg yn Nhreganna. Mae'n saws ynfyd o boeth, ond o leiaf mi gei di ei fwyta fe gyda chydwybod tawel, gan wybod, wrth i dy geg ffrwydro :ing: , bod rhyw ffermwr tsilis yng Ngwlad Swazi yn bellach gallu fforddio addysu ei blant. :D

Maen nhw hefyd yn gwneud amrywiaeth o sawsiau a jamiau sy'n debyg o fod at ddant mwy o bobl. 8)

Re: Eswatini - bwyd masnach deg o Wlad Swazi

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2008 5:36 pm
gan dewi_o
Dwi o hyd yn chwilio am fathau o gaws newydd ac anghyffredin. Ble yn union yn Nhregana mae'r Siop Farchnad Deg ?

Re: Eswatini - bwyd masnach deg o Wlad Swazi

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2008 7:55 pm
gan Dili Minllyn
Llandaff Road, ar y dde oddi wrth Cowbridge Road East wrth i fynd deithio allan o'r dref.

Re: Eswatini - bwyd masnach deg o Wlad Swazi

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2008 8:06 pm
gan dewi_o
Diolch Dil. Byddai'n picio draw yna penwythnos nesaf.